gwefan.org

 

Trydaru

 

Draig Goch


Dewiswch o 32 o Ffrydiau Cymraeg

Gwersyll yr Urdd, Caerdydd
Cardiff City Cymraeg
Cymdeithas yr Iaith
Blogiadur
maes-e
Golwg RSS
Golwg360 Trydar
Haciaith
Menter Caerdydd Trydar
Cyngor Caerdydd Trydar
Pentyrch
Comisiynydd y Gymraeg
Castell-nedd Port Talbot
Fideo Bob Dydd
S4C arlein
Rondo
BBC Newyddion Cymru
Radio Cymru
Plaid Cymru
Lleol.Net
Y Lolfa
Blogiau Daily Post
Recordiau Sain
Menter a Busnes
Iaith Cyf
Trydar y Cymry Prif Newyddion
Trydar y Cymry
Leighton
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Adran Addysg
Pigion Cynulliad
Ffrwti


PIGION
gan Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddiad Newydd: Adroddiad Monitro Brexit: Yr Amgylchedd
20/07/2018, 1:51 pm

20 Gorffennaf 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bydd Brexit yn dod â newidiadau sylweddol ym maes polisi amgylcheddol. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi paratoi’r adroddiad monitro hwn ar gyfer Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad. Mae’n darparu diweddariad ar ddatblygiadau Brexit diweddar sy’n bwysig o ran polisi amgylcheddol yng Nghymru.

Cyhoeddiad Newydd: Adroddiad Monitro Brexit: Yr Amgylchedd (PDF, 2777KB)



Cynllun Pwyllgor ar gyfer sifftio rheoliadau Brexit
20/07/2018, 1:01 pm
20 Gorffennaf 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 10 Gorffennaf 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad Y pwerau ym Mil yr UE (Ymadael) i wneud is-ddeddfwriaeth – materion gweithredol. Mae’r erthygl hon yn ei grynhoi.

Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Ar 13 Gorffennaf 2017, cafodd y Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), ei ddarlleniad cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin. Roedd y Bil yn nodi sut y bydd y corff o gyfraith gyfredol yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn cael ei drosi’n gyfraith y DU (a elwir  yn gyfraith yr UE a ddargedwir) pan fydd y DU yn ymadael â’r UE. Cwblhaodd y Bil ei daith trwy Dŷ’r Cyffredin ar 17 Ionawr 2018 a Thŷ’r Arglwyddi ar 16 Mai 2018. Yn dilyn ping pong, cytunodd y ddau Dŷ ar destun y Bil ar 20 Mehefin 2016 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 26 Mehefin 2018, gan ddod yn Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (“Deddf 2018”).

Mae Deddf 2018 yn rhannu cyfraith yr UE a ddargedwir (h.y. unrhyw gyfraith sydd, ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny, yn parhau i fod yn gyfraith ddomestig neu’n rhan ohoni) yn dri chategori:

Mae Deddf 2018 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddelio â diffygion sy’n deillio o ymadawiad y DU ac i weithredu’r cytundeb ymadael. Gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio’r pwerau gwneud rheoliadau hyn i addasu cyfraith yr UE a ddargedwir, yn amodol ar rai cyfyngiadau pwysig. Er enghraifft, ni châi Gweinidogion Cymru ddefnyddio’r pwerau hynny i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir pan fyddai’r newid yn groes i’r cyfyngiadau a osodir gan reoliadau Llywodraeth y DU (h.y. cyfyngiadau a osodir ar Weinidogion Cymru).

Ym mis Chwefror 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ynghylch Craffu ar Reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Canolbwyntiodd yn bennaf ar y newidiadau y dylid eu gwneud, yn ym marn y Pwyllgor, i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ystod ei hynt, ar y pryd, drwy Dŷ’r Arglwyddi. Nododd yr adroddiad hwnnw:

Efallai y byddwn hefyd yn cyflwyno adroddiad yn ddiweddarach ar faterion mwy gweithredol sy’n ymwneud â chraffu ar yr is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Bil, gan gynnwys, lle bo’n briodol, unrhyw newidiadau sydd eu hangen, yn ein barn ni, i Reolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r Bil terfynol a gaiff ei gymeradwyo gan Senedd y DU hefyd yn debygol o ddylanwadu ar y materion hyn.

Beth yw’r “broses sifftio”?

Mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2018 yn darparu ar gyfer pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol i sifftio rhai rheoliadau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol (“rheoliadau negyddol arfaethedig”) ac i argymell y weithdrefn briodol i’w dilyn. Mae manylion y broses sifftio a nodir yn Atodlen 7 i Ddeddf 2018, fel y mae’n gymwys i’r Cynulliad Cenedlaethol, fel a ganlyn:

Yr Adroddiad

Mae’r adroddiad diweddaraf yn ymdrin â materion gweithredol o ran cynnal y sifft. Argymhellodd y Pwyllgor:

Beth nesaf?

Mae’r rheoliadau drafft cyntaf yn debygol o gael eu gosod yn gynnar yn nhymor yr hydref. Disgwylir y bydd y newidiadau angenrheidiol i’r Rheolau Sefydlog yn digwydd yn y Cyfarfod Llawn yn gynnar ar ôl toriad yr haf.


Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Beth yw’r ffigurau diweithdra diweddaraf? Dyma ein ffeithlun am y farchnad lafur
18/07/2018, 2:29 pm

18 Gorffennaf 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ffeithlun yn dangos y ffigurau diweddaraf am y farchnad lafur yng Nghymru.


Erthygl gan Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Perthynas y DU â’r UE yn y Dyfodol: Cytundebau Cyd-gysylltiad
18/07/2018, 1:25 pm

18 Gorffennaf 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 12 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar y Berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. I gael trosolwg o’r cynigion a rhai o’r materion allweddol i Gymru, gweler ein blog blaenorol.

Er mwyn i’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE weithio, mae’r Papur Gwyn yn nodi y bydd angen trefniadau sefydliadol ar y cyd newydd ac mae’n awgrymu y gallai’r trefniadau hyn fod ar ffurf Cytundeb Cyd-gysylltiad. Mae nifer o Gytundebau Cyd-gysylltiad ar waith ar hyn o bryd rhwng yr UE a thrydydd gwledydd. Bydd y blog hwn yn edrych ar beth yw Cytundeb Cyd-gysylltiad, pam mae’r UE yn ceisio’r cytundebau hyn a pha gytundebau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Beth yw Cytundeb Cyd-gysylltiad?

Cytundeb dwyochrog rhwng yr UE a thrydedd wlad (heb fod yn yr UE) yw Cytundeb Cyd-gysylltiad sy’n creu fframwaith ar gyfer cydweithredu. Mae’r sail gyfreithiol ar gyfer Cytundeb Cyd-gysylltiad, fel y’i diffinnir yn Erthygl 217 o Gytundeb Swyddogaethau’r UE, yn darparu ar gyfer cyd-gysylltiad sy’n cynnwys hawliau a rhwymedigaethau cyfatebol, camau gweithredu cyffredin a gweithdrefnau arbennig.

Yn ôl y Sefydliad Llywodraeth, mae’r UE yn defnyddio Cytundebau Cyd-gysylltiad i greu ‘cysylltiadau breintiedig’ gyda gwledydd nad ydynt yn aelodau. Felly, bydd Llywodraeth y DU yn gobeithio gweld yr UE yn defnyddio Cytundeb Cyd-gysylltiad i sefydlu Ardal Fasnach Rydd ar gyfer nwyddau, creu partneriaeth diogelwch newydd a darparu ar gyfer cytundebau cydweithredol mewn meysydd megis gwyddoniaeth ac arloesedd, diwylliant ac addysg, a gofod, ymhlith pethau eraill.

Yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ym mis Ionawr 2018, disgrifiodd Dr Tobias Lock o Brifysgol Caeredin Gytundeb Cyd-gysylltiad fel rhywbeth “yn y canol” rhwng ‘opsiwn Norwy’ (aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd) ac ‘opsiwn Canada’ (cytundeb economi a masnach a drafodir fesul pennod). Gwneir y pwynt hwn yn glir hefyd yn y graffig a gyflwynwyd gan Michel Barnier i’r Penaethiaid Gwladwriaethau a Llywodraethau yn y Cyngor Ewropeaidd ar 15 Rhagfyr 2017, sy’n defnyddio’r Wcráin fel enghraifft o’r berthynas y gall trydydd wlad ei chael gyda’r UE o dan Gytundeb Cyd-gysylltiad.

Pa Gytundebau Cyd-gysylltiad sydd ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd mae gan yr UE dros 20 o Gytundebau Cyd-gysylltiad, gan gynnwys:

Pam mae’r UE yn ceisio Cytundebau Cyd-gysylltiad?

Nid yw pob Cytundeb Cyd-gysylltiad yn ateb yr un diben, gan fod nifer o resymau pam y gall yr UE fod am geisio Cytundeb Cyd-gysylltiad gyda thrydedd wlad.

Sefydlwyd Cytundebau Cyd-gysylltiad yn wreiddiol gan yr UE i baratoi gwledydd nad oeddent yn aelodau ar gyfer eu derbyn. Yng nghyd-destun derbyniad i’r UE a’r broses o ehangu’r UE, mae Cytundebau Cyd-gysylltiad yn gweithredu fel sail ar gyfer gweithredu’r broses dderbyn. Mae Cytundebau Cyd-gysylltiad at y diben hwn yn bodoli ar hyn o bryd gyda Gwledydd Gorllewin y Balcan  a Thwrci.

Yn fwy diweddar, mae’r UE wedi defnyddio Cytundebau Cyd-gysylltiad ar gyfer set ehangach o ddibenion, gan gynnwys datblygu cysylltiadau gwleidyddol ac economaidd hirdymor mwy dwys â thrydydd gwledydd nad ydynt yn ymgeiswyr i gael eu derbyn i’r UE, er enghraifft Cytundeb Cyd-gysylltiad Wcráin-UE.

At hynny, defnyddir Cytundebau Cyd-gysylltiad hefyd i wella masnach gyda gwledydd nad ydynt yn aelodau sydd heb unrhyw uchelgais o gael mynediad i’r UE nawr nac yn y dyfodol. Nid oes angen i’r siroedd hyn fod yn rhan o Bolisi Cymdogaeth Ewrop na bod wedi’u lleoli yn agos yn ddaearyddol i’r UE. Er enghraifft, mae’r UE wrthi’n trafod cytundeb masnach deuranbarthol gyda’r pedair wladwriaeth a sefydlodd Mercosur – Ariannin, Brasil Paraguay ac Uruguay – fel rhan o Gytundeb Cyd-gysylltiad ehangach rhwng y ddau ranbarth. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn gobeithio y bydd y Cytundeb Cyd-gysylltiad hwn yn sicrhau gostyngiad mewn tariffau ar nwyddau a gynhyrchir yn Aelod-wladwriaethau’r UE a gaiff eu hallforio i wladwriaethau Mercosur, yn ogystal â lleihad mewn rhwystrau nad ydynt yn dariffau drwy symleiddio’r gweithdrefnau tollau ac alinio’n well â safonau a rheoliadau technegol.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Nid yw’r UE wedi ymateb yn ffurfiol i gynigion Llywodraeth y DU eto. Fodd bynnag, pan roddodd Guy Verhofstadt, cydgysylltydd Brexit Senedd Ewrop, dystiolaeth i Bwyllgor Ymadael â’r UE Tŷ’r Cyffredin ar 20 Mehefin, dywedodd mai model o ddewis Senedd Ewrop ar gyfer partneriaeth yn y dyfodol yw i’r DU a’r UE lofnodi Cytundeb Cyd-gysylltiad:

We [the European Parliament] think it has to be an association agreement that is foreseen in our treaties in Articles 8 and 217. On the one hand, that gives an enormous flexibility, because an association agreement can be very narrow; you can limit yourself only to trade, for example. In an association agreement you can be very broad. You can also put cooperation on foreign and security policy in it. It is flexible and precise at the same time, because you are going to create one governance structure and you are going to create not only one governance structure but also one cycle of ratification.

Yn ôl Mr Verhofstadt:

The advantage of an association agreement is that once it is approved by your side and by the European institutions, the Council and Parliament, it is applicable in advance; you do not need to wait for ratification by the other 27 member states, which can take some time.

Serch hynny, fel y nodwyd yn y Papur Gwyn, ‘the legal base that would need to be cited under the EU Treaties would be for the EU to determine’ a byddai manylion am y cytundeb yn ddarostyngedig i’r drafodaeth â’r UE. Yn flaenorol, disgrifiodd Mr Verhofstadt y cynnig o Gytundeb Cyd-gysylltiad fel ymgais i greu pont rhwng llinellau coch Llywodraeth y DU ac egwyddorion yr Undeb Ewropeaidd. Rhaid aros i weld sut y bydd yr UE yn ymateb i gynigion Llywodraeth y DU ac a ydynt yn pontio safbwyntiau a buddiannau’r ddau barti.


Erthygl gan Manon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei chynigion o ran ei pherthynas â’r UE yn y dyfodol
17/07/2018, 12:03 pm

17 Gorffennaf 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 12 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol (Saesneg yn unig). Mae’r papur yn fwy na 100 o dudalennau ac mae’n nodi’n fanwl gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer partneriaeth economaidd yn y dyfodol, partneriaeth ddiogelwch yn y dyfodol, ar gydsynio cydweithredol mewn meysydd fel arloesi a physgodfeydd ac ar sut y dylid llywodraethu’r berthynas yn y dyfodol. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau a fydd yn edrych yn fanwl ar ba elfennau o’r Papur Gwyn sy’n debygol o fod o ddiddordeb mwyaf i Gymru.

Ymhen naw mis y bydd y DU yn ymadael yn ffurfiol â’r UE, ar 29 Mawrth 2019. Er y bydd nifer o’r cynigion yn y Papur Gwyn yn hanfodol ar gyfer y trafodaethau ar y Cytundeb Ymadael, mae’n debyg y caiff llawer o fanylion gweithredol o ran sut y bydd y berthynas yn y dyfodol yn gweithio eu trafod yn ystod y cyfnod pontio arfaethedig.

Y Bartneriaeth Economaidd

Prif nodwedd cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer partneriaeth economaidd yn y dyfodol yw creu Ardal Masnach Rydd newydd ar gyfer nwyddau, gan gynnwys nwyddau amaeth-bwyd. Mae’r DU yn cynnig mai nodweddion allweddol partneriaeth economaidd fyddai:

Y Bartneriaeth Ddiogelwch

Mae’r Papur Gwyn yn nodi cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer partneriaeth ddiogelwch newydd â’r UE. Byddai hyn yn cynnwys y DU yn cymryd rhan mewn rhai o asiantaethau diogelwch cyfredol yr UE ond ar delerau gwahanol; mynediad at systemau diogelwch allweddol, cydweithio parhaus ar amddiffyn, gan gynnwys ym maes ymchwil a datblygu, cytundebau ar estraddodi, parhau i gymryd rhan yn y Rhaglen Lloeren Galileo a chydweithredu mewn meysydd fel diogelwch iechyd. Yn benodol, mae’n awgrymu perthynas barhaus ag asiantaethau iechyd yr UE, fel Canolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop, a’r gallu i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarparu hyfforddiant Microbioleg Iechyd.

Cydsyniadau cydweithredol

Mae’r Papur Gwyn yn cynnig ‘cydsyniadau cydweithredol’ mewn pum maes allweddol:

O ran y cytundebau cydweithredol ar wyddoniaeth ac arloesedd, a diwylliant ac addysg, dywed y byddai’r rhain yn ceisio cynnwys mynediad at rai o raglenni cyllido presennol yr UE fel Horizon, Erasmus+ ac Ewrop Greadigol yn ogystal â chytundebau ar gyfranogiad y DU mewn rhwydweithiau a fforymau’r UE.

Mae’r Papur Gwyn hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer cytuno ar ddull ar gyfer trafodaethau blynyddol ar gyfleoedd pysgota rhwng y DU a’r UE a fyddai’n nodi trefniadau ar gyfer mynediad cyfatebol i ddyfroedd y naill a’r llall. Mae’r Papur Gwyn yn datgan y bydd yn parhau i weithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig ar y cynigion hyn.

Llywodraethu a Threfniadau Sefydliadol

Mae’r Papur Gwyn yn datgan, er mwyn i berthynas mor agos a manwl â hyn weithio yn y dyfodol, bydd angen trefniadau sefydliadol newydd. Mae’n awgrymu y gallai’r berthynas gyffredinol ar gyfer y cytundeb fod yn gytundeb cysylltiedig. Mae gan yr UE nifer o’r rhain eisoes ar waith gyda gwledydd trydydd parti. Bydd yr ail flog yn y gyfres hon yn edrych yn fwy manwl ar y rhain a sut maent yn gweithio.

Mae’r Papur yn cynnig sefydlu corff llywodraethu newydd yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig i reoli’r berthynas yn y dyfodol. Byddai hwn yn fforwm i weinidogion ac arweinwyr gyfarfod bob dwy flynedd. Mae’r Papur Gwyn yn nodi y byddai Llywodraeth y DU yn cynrychioli’r DU gyfan ar y corff hwn ond yn ystyried barn y llywodraethau datganoledig.

Byddai Cyd-bwyllgor a fyddai’n cynnwys swyddogion y DU a’r UE yn cwrdd yn amlach ac yn trafod materion manwl ynghylch gweithredu’r berthynas, ac yn ceisio datrys unrhyw anghydfodau ynglŷn â’i gweithredu yn anffurfiol. Byddai nifer o is-bwyllgorau technegol hefyd yn cael eu sefydlu. Pan na ellir datrys anghydfodau mewn Cyd-bwyllgorau, mae’r Papur Gwyn yn cynnig system ar gyfer cymrodeddu annibynnol. Bydd gennym flog yn y dyfodol yn edrych yn fwy manwl ar y trefniadau llywodraethu hyn.

Rôl Senedd y DU a’r deddfwrfeydd datganoledig

Dywed y Papur Gwyn, er y byddai’r DU yn ymrwymo o flaen llaw i lyfr rheolau cyffredin, y gallai Senedd y DU benderfynu ynghylch sut y gweithredir rheolau cyffredin yng nghyfraith y DU a dewis peidio â gweithredu deddfau newydd. Wrth ddewis peidio â mabwysiadu rheolau cyffredin newydd, byddai Senedd y DU yn derbyn y byddai hyn yn cael effaith ganlyniadol ar fynediad y DU at farchnad yr UE. Mae Pennod 4 y papur yn nodi dull arfaethedig ar gyfer cynnwys Senedd y DU.

O ran y deddfwrfeydd datganoledig, mae’r Papur yn nodi y bydd rhai newidiadau i reolau cyffredin mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig. Yn y meysydd hyn, dywed y bydd rôl ar gyfer llywodraethau a deddfwrfeydd datganoledig ac y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda llywodraethau datganoledig i sicrhau bod ‘prosesau yn cael eu rhoi ar waith sy’n adlewyrchu’r setliad datganoli’ ac yr adlewyrchir newidiadau i reolau cyffredin yn y gyfraith ar draws y Deyrnas Unedig. Nid yw’r Papur yn nodi a fydd, na sut y bydd, yn ymgynghori â’r deddfwrfeydd datganoledig eu hunain ynglŷn â’r prosesau hyn.

Materion allweddol i Gymru

Er y bydd pob elfen o’r berthynas â’r UE yn y dyfodol yn effeithio ar ddinasyddion ac economi Cymru, mae rhai o’r cwestiynau allweddol y mae’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn debygol o’u gofyn ynghylch cynigion y Papur Gwyn yn cynnwys:

Byddwn yn edrych yn fanylach ar rai o’r cwestiynau hyn, ac eraill, yng ngweddill y gyfres hon o flogiau ar y Papur Gwyn a’i gynigion ar gyfer y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.


Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Mae angen trefniadau gweithio’n hyblyg, gofal plant a newid diwylliant i gyflawni cydraddoldeb rhywiol yn y gwaith, yn ôl canfyddiadau un o bwyllgorau’r Cynulliad
16/07/2018, 9:57 am
16 Gorffennaf 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Gymraeg

Heddiw, mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cyhoeddi ei adroddiad, ‘Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru‘, yn dilyn ei ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth, rhianta a gwaith

Daw’r adroddiad i’r casgliad bod strwythur anhyblyg y gweithle a’r rhagdybiaethau gofal plant a wneir o ran rhyw, yn ogystal â’r gwahaniaethu cyffredin sy’n digwydd yn golygu bod mamau yn fwy tebygol o gael eu cyfyngu i waith rhan-amser â chyflog isel gyda llai o gyfleoedd am gynnydd gyrfaol. Ystyriodd y Pwyllgor fod y materion hyn yn achosion allweddol o anghydraddoldeb rhywiol, ac yn cynrychioli colled i’r economi. Mae Cyngor Busnes Menywod Llywodraeth y DU wedi amcangyfrif y gallai sicrhau cydraddoldeb rhwng cyfraddau cyflogaeth menywod a dynion helpu economi’r DU i dyfu mwy na 10% erbyn 2030.

Beth yw’r broblem?

Yng Nghymru, y gyfradd gyflogaeth i fenywod sydd â phlant dibynnol yw 75%; y gyfradd i ddynion â phlant dibynnol yw 91%.

Mae gwaith ymchwil gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos, cyn i’r plentyn cyntaf gael ei eni, fod cyfraddau cyflogaeth dynion a menywod yn y DU fwy neu lai yr un fath. Rhwng y flwyddyn cyn geni’r plentyn a’r flwyddyn wedyn, nid yw cyfraddau cyflogaeth dynion yn newid fawr ddim. Fodd bynnag, mae cyfraddau cyflogaeth menywod yn gostwng 33 pwynt canran ar gyfer y rheini sydd â chymwysterau TGAU, 19 pwynt canran ar gyfer y rheini â Safon Uwch, ac 16 pwynt canran ar gyfer graddedigion.

Erbyn yr amser i’r plentyn cyntaf droi’n 12 oed, mae cyflog menywod fesul awr draean yn is na chyflog dynion. Pan fo’r plentyn yn 20 oed, nid yw cyfraddau cyflogaeth menywod yn gyfartal â dynion o hyd.

Sefydliad Astudiaethau Cyllid (2016) bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Yn 2016, canfu arolwg gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod 87% o gyflogwyr yng Nghymru o’r farn ei bod yn fuddiol i sefydliadau gefnogi menywod beichiog a’r rhai sydd ar absenoldeb mamolaeth. Canfu hefyd fod 71% o famau wedi dweud iddynt gael profiadau negyddol neu wahaniaethu o ganlyniad i gael plant, dywedodd 15% iddynt gael colled ariannol, a dywedodd 10% eu bod hyd yn oed yn teimlo bod rhaid iddynt adael eu swydd.

Ategwyd canfyddiadau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gan gyfraniadau unigolion at yr ymchwiliad. Clywodd y Pwyllgor gan nifer sylweddol o fenywod a gafodd eu diswyddo yn ystod beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth, neu a gafodd swydd wahanol neu lai o gyfrifoldebau heb iddynt gael eu hymgynghori. Ni allai eraill gael cyflogaeth hyblyg i gyd-fynd â gofal plant er gwaethaf yr hawl gyfreithiol i ofyn am weithio’n hyblyg, ac fe’u gorfodwyd i hunangyflogaeth ansicr ar dâl isel.

Beth wnaeth y Pwyllgor ei argymell?

Mae’r Pwyllgor yn credu y gall Llywodraeth Cymru chwarae rôl allweddol wrth roi diwedd ar wahaniaethu drwy foderneiddio gweithleoedd a rhoi rhwymedigaethau mwy cadarn ar gyrff cyhoeddus a sefydliadau preifat a gwirfoddol sy’n derbyn cyllid cyhoeddus.

Argymhellodd y dylid cyflawni hyn drwy:

 Adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhywiol

Cyhoeddwyd yr adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhywiol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ar 10 Gorffennaf 2018, yn dilyn ymrwymiad y Prif Weinidog i sicrhau bod Cymru yn arweinydd byd-eang mewn cydraddoldeb rhywiol.

Argymhellodd yr adroddiad cyflym y dylai Llywodraeth Cymru wneud y canlynol:

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r adolygiad cyflym ac adroddiad y Pwyllgor yn nhymor yr hydref.


Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Rôl Llywodraethau datganoledig yn nhrafodaethau’r Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd
13/07/2018, 2:11 pm

13 Gorffennaf 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyflwyniad

Cyn cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn i gwyno nad oeddent wedi’u hymgynghori’n llawn wrth lunio’r Papur Gwyn yn amlinellu cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer ymadael â’r UE. Mae’r erthygl hon yn trafod datblygiadau diweddar ynghylch rôl y Llywodraethau datganoledig yn nhrafodaethau Llywodraeth y DU â’r UE.

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Ddydd Llun 2 Gorffennaf, rhoddodd Mr Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn Llywodraeth Cymru, sy’n arwain ar Brexit ar ran Llywodraeth Cymru, dystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (‘MADY’) ynghyd â Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio a’r Gweinidog sy’n cynrychioli Llywodraeth Cymru yn y Fforwm Gweinidogol Rhynglywodraethol ar Drafodaethau â’r UE. Esboniodd Ms Evans:

 […] no actual chapters of the White Paper were shared with us. We were very clear that that was wholly unacceptable to us. There will be areas of that White Paper that are very much areas that are Welsh Government responsibility, and the other devolved nations as well. So, within that White Paper, at the very least the UK Government needs to be clear where they’re speaking for the UK and where there are devolved matters at play there.

Ymunodd Mr Drakeford â Mike Russell, Ysgrifennydd y Cabinet dros Fusnes y Llywodraeth a Chysylltiadau Cyfansoddiadol yn yr Alban, i ysgrifennu llythyr at y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn a Chadeirydd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) cyn cyfarfod y cyd-bwyllgor ar 5 Gorffennaf. Gwnaethant gwyno na roddwyd caniatâd i gynrychiolwyr y Llywodraethau datganoledig weld y Papur Gwyn drafft cyn cyfarfod y Fforwm Gweinidogol a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, ac nid oeddent ond yn gallu gwneud cyfraniadau ar sail crynodeb byr o’r penodau perthnasol a roddwyd ar lafar. Daw’r llythyr i’r casgliad a ganlyn:

We therefore wish to make it absolutely clear that we will not regard any discussion of the White Paper at next Thursday’s JMC (EN) [5 July] as meaningful, unless we have been given prior access to the text of the draft White Paper as it currently stands.

If we do not have this opportunity, we will have to make it very clear that we have been given no real possibility to consider, let alone influence, the content of a document which will purport to speak on behalf of the whole of the United Kingdom about matters, many of which are devolved, and on a subject which is of the greatest possible importance to the people of Scotland and Wales.

Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE)

Cynhaliwyd unfed ar ddeg cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ar 5 Gorffennaf a chafodd ei gadeirio gan Mr Lidington. Wedi hyn, cyhoeddwyd yr hysbysiad a ganlyn:

The Chair opened the meeting by summarising the recent developments in EU negotiations and the Ministerial level engagement that had taken place since the Committee had last met, including June European Council and the second meeting of the Ministerial Forum on EU Negotiations.

The Parliamentary Under Secretary of State for Exiting the EU, Robin Walker MP, provided an update on negotiations and full overview of June European Council.

The Chair and the Parliamentary Under Secretary of State for Exiting the EU also provided an update on the Department for Exiting the EU’s Future Framework white paper.

The Committee discussed the UK Government’s proposals for the Withdrawal Agreement and Implementation Bill.

The Chair provided an update on the ongoing work on common frameworks.

Yn dilyn cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, gwnaeth Mr Drakeford y datganiad a ganlyn:

Cyn ac yn ystod y drafodaeth, fe nodais yn glir wrth Weinidog y Cabinet, David Lidington, fod y ffaith nad oedd Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban wedi cael gweld drafft llawn o’r Papur Gwyn yn golygu nad oeddem wedi cael cyfle ystyrlon i ystyried y cynigion a rhoi sylwadau arnynt.

Mae hyn yn groes i’r sicrhad blaenorol gan Lywodraeth y DU y byddai’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael cyfle ystyrlon i gyfrannu at lunio’r safbwyntiau negodi wrth iddynt gael eu datblygu. Er hynny, rydym yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i ddadlau’r achos dros Brexit sy’n amddiffyn buddiannau Cymru.

Dywedodd Mr Lidington wrth y BBC fod llywodraeth y DU am ymgysylltu’n adeiladol â’r gweinyddiaethau datganoledig a’i fod yn bwysig bod llywodraeth y DU yn eistedd i lawr yn rheolaidd gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i drafod paratoadau ar gyfer ymadael â’r UE.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi ysgrifennu at y Gwir Anrhydeddus David Davis AS, y cyn Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE, ar 26 Mehefin i fynegi pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch sefyllfa’r trafodaethau â’r UE27 a’r ansicrwydd y mae dull Llywodraeth y DU yn ei greu ar draws meysydd allweddol yr economi ac o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

Yn y llythyr hwn, ailadroddodd Mr Drakeford farn Llywodraeth Cymru am fodel llywodraethu yn y dyfodol ar gyfer y berthynas rhwng y DU a’r UE. Oherwydd y bydd y berthynas hon yn cynnwys materion datganoledig a materion sydd heb eu datganoli, mynegodd ei farn ei bod hi’n hanfodol bod y model llywodraethu’n cael ei ddatblygu a’i weithredu ar y cyd â’r llywodraethau datganoledig. Cyn i’r model gael ei gynnig i’r UE, dywedodd Mr Drakeford fod angen sicrhau ei fod yn ddigonol i weithredu yng nghyd-destun y DU, gan adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig.

Hefyd, wrth drafod trefniadau rhynglywodraethol yn y llythyr, dywedodd fod angen datblygu modelau gweithredu a llywodraethu rhynglywodraethol priodol, gan gyfeirio at gynnig Llywodraeth Cymru ynghylch sefydlu Cyngor y Gweinidogion.

It is clear the JMC process is inadequate to deal with the complexities of the UK’s withdrawal from the EU. As the level of intergovernmental working will increase and intensify a new approach is urgently needed.

Y Papur Gwyn

Yr wythnos diwethaf, cyfarfu’r Cabinet yn Chequers, gan gytuno ar ffordd ymlaen i Lywodraeth y DU yn ei thrafodaethau â’r UE. Er y cafwyd ambell ymddiswyddiad amlwg yn sgil y cytundeb, gan gynnwys ymddiswyddiad David Davis, ymddengys fod y cytundeb yn parhau. Cafodd y Papur Gwyn ei gyhoeddi ddoe.


Erthygl gan Alys Thomas Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Cyhoeddiad Newydd: Tir Comin
13/07/2018, 11:53 am

13 Gorffennaf 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r papur briffio hwn yn crynhoi’r prif ffeithiau a’r wybodaeth am dir comin. Mae’n rhoi diffiniad cyffredinol o dir comin, yn amlinellu faint o dir comin sydd yng Nghymru, ac yn rhoi trosolwg o’r newidiadau o ran deddfwriaeth yn ddiweddar. Mae hefyd yn disgrifio’r trefniadau presennol ar gyfer cofrestru a rheoli tir comin yng Nghymru, mynediad i’r cyhoedd a’r math o waith a ganiateir ar y tir, ac mae hefyd yn rhoi braslun o’r sefyllfa yng ngwledydd eraill y DU.

Cyhoeddiad Newydd: Tir Comin (PDF, 1018KB)


Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel
13/07/2018, 9:59 am

13 Gorffennaf 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar ddydd Mercher, 18 Gorffennaf, bydd Aelodau Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Gwneud i’r Economi Weithio i’r Rheini sydd ag Incwm Isel. Mae’r erthygl hon, cafodd ei chyhoeddi’n wreiddiol ar 23 Mai 2018, yn cael ei hailgyhoeddi cyn y drafodaeth.

Gyda bron i chwarter pobl Cymru (24%) yn byw mewn tlodi wedi i gostau tai gael eu cymryd i ystyriaeth, mae darganfod ffyrdd i fynd i’r afael â hyn wedi bod yn ganolbwynt gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Mae’r Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad ar wneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel ar 23 Mai.

Ffigwr 1: Canran yr unigolion sy’n byw mewn cartrefi ble mae’r incwm yn llai na 60% o ganolrif incwm cartrefi ar draws y DU (ar ôl costau tai), 2014-15 i 2016-17

Nid yw’r pŵer dros yr holl bolisïau a chamau ariannol angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth Cymru. Felly, mae’r Pwyllgor yn pwysleisio y bydd angen gwneud defnydd creadigol o’r pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl ar draws Cymru gyda swyddi o safon a chyflogau safonol.

Felly, beth mae pobl wedi dweud wrth y Pwyllgor yw’r ffyrdd gorau o wella incwm y rheini sy’n wynebu’r angen mwyaf, a beth mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud er mwyn cyflawni hyn?

Beth mae pobl ar incwm isel yn credu gall y llywodraeth wneud er mwyn gwneud i’r economi weithio’n well i’r rheini sydd ag incwm isel?

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi fideo sy’n dangos y prif faterion sy’n poeni pobl sydd ddim yn gweithio neu pobl sy’n gweithio ar incwm isel, gan gynnwys:

Cyfleoedd gwaith:

Tâl:

Cytundebau dim oriau:

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi clywed am bryderon ynglŷn â nifer o feysydd eraill, gan gynnwys trafnidiaeth, diffyg hyfforddiant a chefnogaeth, problemau gyda Credyd Cynhwysol a’r system budd-daliadau, a diffyg tai cymdeithasol.

Beth mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud er mwyn helpu pobl sydd ag incwm isel?

Mae’r pwyllgor wedi gwneud 23 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

Beth fydd yn digwydd nesa’?

Bydd adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor yn cael eu cyflwyno i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru. Mae disgwyl i’r Llywodraeth ymateb yn y misoedd nesaf, ac wedi i’r ymateb hwnnw gael ei dderbyn bydd Aelodau yn trafod yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu Comisiwn Cyflog Teg, fydd yn ystyried nifer o’r materion sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor, ac yn ehangach gan fudiadau eraill. Bydd y Comisiwn yn cael ei arwain gan gadeirydd annibynnol, yn gytbwys o ran rhyw, gan gyhoeddi eu casgliadau erbyn Mawrth 2019.


Erthygl gan Gareth Thomas a Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell: Adran Gwaith a Phensiynau, Households Below Average Income 2014-15 to 2016-17


Nid yw’r pŵer dros yr holl bolisïau a chamau ariannol angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth Cymru. Felly, mae’r Pwyllgor yn pwysleisio y bydd angen gwneud defnydd creadigol o’r pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl ar draws Cymru gyda swyddi o safon a chyflogau safonol.

Felly, beth mae pobl wedi dweud wrth y Pwyllgor yw’r ffyrdd gorau o wella incwm y rheini sy’n wynebu’r angen mwyaf, a beth mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud er mwyn cyflawni hyn?

Beth mae pobl ar incwm isel yn credu gall y llywodraeth wneud er mwyn gwneud i’r economi weithio’n well i’r rheini sydd ag incwm isel?

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi fideo sy’n dangos y prif faterion sy’n poeni pobl sydd ddim yn gweithio neu pobl sy’n gweithio ar incwm isel, gan gynnwys:

Cyfleoedd gwaith:

Tâl:

Cytundebau dim oriau:

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi clywed am bryderon ynglŷn â nifer o feysydd eraill, gan gynnwys trafnidiaeth, diffyg hyfforddiant a chefnogaeth, problemau gyda Credyd Cynhwysol a’r system budd-daliadau, a diffyg tai cymdeithasol.

Beth mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud er mwyn helpu pobl sydd ag incwm isel?

Mae’r pwyllgor wedi gwneud 23 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys: