Newyddion Menter Iaith Castell-nedd Port TalbotFfrwd RSS Menter
Swyddfa newydd i Fenter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Ar ôl treulio 12 mlynedd yng Nghanolfan y Groes Pontardawe, mae’r Fenter Iaith wedi symud i swyddfa newydd, ar ddydd Llun, 16 Mawrth 15 i adeilad Prosiect Ponty, tu ôl i faes parcio Tafarn y Dillwyn, sgwâr Pontardawe. 19/3/2015
Trip i Laserzone!Ar nos Fercher y 4ydd o Chwefror fe wnaeth Hari Powell o Fenter Iaith Castell-nedd Port Talbot, ar y cyd gyda Sarah Gwilym o BartnerIAITH Aman Tawe, trefnu taith i ddisgyblion blynyddoedd 7 – 9 Ysgol Gyfun Ystalyfera i Laserzone, Abertawe. 19/3/2015
Cystadleuaeth Creu Carden Santes Dwynwen!Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth dros y blynyddoedd diwethaf, penderfynwyd trefnu Cystadleuaeth Dylunio Cerdyn Santes Dwynwen eleni eto i ysgolion y sir. Bu 5 ysgol gynradd. ‘Roedd safon y gystadleuaeth yn anhygoel, ac yn amlwg bod pawb wedi gweithio’n galed iawn i gynhyrchu cardiau digon da. 19/3/2015
Cwis CwmneddCynhaliwyd cwis yng Nghlwb Rygbi Glyn-nedd ar Nos Iau, 5ed o Fawrth, ar y cyd gyda Phwyllgor Ardal Port Talbot a YGG Cwmnedd. Roedd y cwis yn gystadleuol iawn gyda Cewri’r Côr yn fuddugol ar ddiwedd y noson. 17/3/2015
Cystadleuaeth Ffenest Siop Gŵyl Dewi Tref PontardaweTrefnodd Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pontardawe â’r Siambr Fasnach cystadleuaeth ffenest siop i gyd-fynd gyda Gŵyl Ddewi. Braf nodi bod nifer o’r siopau wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth cafodd ei feirniadu gan Faer Pontardawe, Peter Davies. 2/3/2015
Cyfweliadau Ffug Ysgol Gyfun YstalyferaAr y 27ain a’r 28ain o fis Ionawr 2015, cynhaliwyd cyfweliadau ffug yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Gofynnodd yr ysgol i Swyddog Datblygu'r Fenter Hari Powell, a Swyddog Datblygu Partneriaith Aman Tawe Sarah Gwilym, i fynychu’r digwyddiad er mwyn cyfweld â’r disgyblion. 2/3/2015