gwefan.org

 

Trydaru

 

Draig Goch


Dewiswch o 32 o Ffrydiau Cymraeg

Gwersyll yr Urdd, Caerdydd
Cardiff City Cymraeg
Cymdeithas yr Iaith
Blogiadur
maes-e
Golwg RSS
Golwg360 Trydar
Haciaith
Menter Caerdydd Trydar
Cyngor Caerdydd Trydar
Pentyrch
Comisiynydd y Gymraeg
Castell-nedd Port Talbot
Fideo Bob Dydd
S4C arlein
Rondo
BBC Newyddion Cymru
Radio Cymru
Plaid Cymru
Lleol.Net
Y Lolfa
Blogiau Daily Post
Recordiau Sain
Menter a Busnes
Iaith Cyf
Trydar y Cymry Prif Newyddion
Trydar y Cymry
Leighton
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Adran Addysg
Pigion Cynulliad
Ffrwti


blogiadur
clegar y cymry

Mis Hanes Pobl Dduon 2018: Eleni bydd 50 mlynedd ers i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1968 ddod i rym
22/10/2018, 2:30 pm
Logo Mis Hanes Pobl Dduon Cymru Mae eleni’n arwyddocaol, gan y bydd yn nodi 50 mlynedd ers i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1968 ddod i rym.   Llun o arwydd ‘No irish no blacks no dogs’ mewn ffenestr tŷ Roedd Deddf 1968 yn olynu Deddf Cysylltiadau Hiliol 1965, y ddeddfwriaeth Cysylltiadau Hiliol gyntaf erioed, a oedd yn ei gwneud yn drosedd sifil, ond nid yn drosedd, i wahaniaethu “ar sail lliw, hil, neu darddiad ethnig neu genedlaethol” mewn mannau cyhoeddus fel gwestai a bwytai, tafarndai, llyfrgelloedd, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ati. Roedd hefyd yn deddfu ar gyfer cosbi am ysgogi casineb hiliol. Nid oedd Deddf 1965 yn berthnasol i wahaniaethu o fewn cyflogaeth na thai, sef dau faes amlwg lle’r oedd gwahaniaethu’n gyffredin. Roedd yr arwyddion enwog “Dim pobl dduon, dim cŵn, dim Gwyddelod” yn dal i fod yn gyfreithlon ar ôl Deddf Cysylltiadau Hiliol 1965. Sefydlodd Deddf 1965 y Bwrdd Cysylltiadau Hiliol i orfodi’r Ddeddf. Fodd bynnag, unig rym y Bwrdd oedd cyfeirio’r mater at y Twrnai Cyffredinol ac ni allai yntau wedyn wneud dim mwy na cheisio gwaharddeb llys sirol i atal gwahaniaethu yn y dyfodol. Am y rhesymau hyn, barnwyd fod Deddf 1965 yn aneffeithiol ac yn rhy gul. Ehangodd Deddf 1968 gwmpas deddfwriaeth gwrth-wahaniaethu i gynnwys tai, cyflogaeth a darparu gwasanaethau. Rhoddodd rym i’r Bwrdd Cysylltiadau Hiliol ei hun ofyn am iawndal yn y llys sirol. Gallai iawndal hefyd gynnwys dyfarnu iawndal yn ogystal â gwaharddebau i atal gwahaniaethu yn y dyfodol. Fel cyflogwr, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a chynnal diwylliant sefydliadol cynhwysol. “Rwy’n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, a’i fod yn gorff seneddol modern a hygyrch y gall pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, ryngweithio yn hawdd ac yn ystyrlon ag ef. Mae’n ddyletswydd arnom ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i arwain yn hyn o beth, i rannu ein profiadau, ac i sicrhau bod gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu parchu a’u harfer gan bawb,” Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, byddai’n ymddangos yn rhyfedd i gofio Mis Hanes Pobl Dduon a pheidio â myfyrio ar y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol, darn o ddeddfwriaeth a oedd yn rhagflaenydd i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae gennym ddyletswydd gyffredinol o dan y Ddeddf i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erlid anghyfreithlon ar sail nodweddion gwarchodedig[1]. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr hygyrch, sy’n denu ac yn cadw ystod eang o dalent, yn ogystal â bod yn ddarparwr gwasanaeth hygyrch. Rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi amrywiaeth, hyrwyddo cynhwysiant a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, nid yn unig oherwydd: fel corff cyhoeddus sydd heb ei ddatganoli, mae gennym ddyletswydd gyffredinol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i: ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erlid; hybu cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu; bod tystiolaeth ymchwil yn dangos bod sefydliadau cynhwysol, sy’n denu ac yn datblygu unigolion o’r pwll mwyaf eang o dalent, yn perfformio’n well yn gyson; ond oherwydd mai dyna yw’r peth iawn i’w wneud yn foesol, fel y dywedodd y Farwnes McGregor-Smith CBE, yn adolygiad McGregor-Smith[2]: “We should live in a country where every person, regardless of their ethnicity or background, is able to fulfil their potential at work”. Rydym yn ymwybodol ein bod yn sicrhau nad oes lle i wahaniaethu yn y broses recriwtio ac mae polisi dim goddefgarwch ar gyfer gwahaniaethu sy’n cael ei brofi gan unrhyw un o’n gweithwyr. Mae gennym nifer o bolisïau cefnogol ar gyfer staff, fel ein: ‘Polisi Urddas a Pharch’ – sydd wedi’i ategu gan gysyniadau tegwch, urddas a pharch, ‘Strategaeth pobl’ – sy’n cydnabod bod pob aelod o staff, waeth beth fo’i gefndir, yn haeddu’r cyfle i wireddu ei botensial llawn a llwyddo yn ei yrfa, ‘Polisi recriwtio’ – sy’n amlinellu ein hymrwymiad i recriwtio ar sail teilyngdod, tegwch a gonestrwydd. Logo rhwydwaith gweithle Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig y Cynulliad Mae gennym rwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol gweithgar a elwir yn REACH. Mae’n gweithio’n agos gyda’r rheolwyr i ddatblygu diwylliant sefydliadol cynhwysol. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n staff am y gwaith a wnânt i’n helpu i fod yn sefydliad cynhwysol. Gwyddom mai ein staff yw ein hased gorau ac rydym am sicrhau eu bod yn gweithio mewn amgylchedd cefnogol a diogel.   Rydym eisiau parhau i fod yn sefydliad sy’n esiampl i eraill o ran rhoi gwerth ar amrywiaeth, hyrwyddo cynhwysiant ac ymgorffori cydraddoldeb, fel cyflogwr ac fel sefydliad seneddol. Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad sy’n hygyrch ac sy’n ymgysylltu â phobl Cymru ac yn eu parchu. Rydym yn ymgysylltu ag ystod mor amrywiol o grwpiau â phosibl yn y gred y gall hyn ond arwain at well sefydliad democrataidd a deddfwrfa sy’n darparu’n effeithiol ar gyfer holl bobl Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am weithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ewch i’n tudalennau Recriwtio. Mae rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi’i nodi yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21. [1] Nodweddion gwarchodedig: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a thueddfryd rhywiol. [2] Mae’r Amser i Siarad drosodd. Nawr yw’r amser i weithredu. Hil yn y gweithle ‘


Cymru yn cynhesu
22/10/2018, 10:44 am
Ydy, mae’n digwydd Erbyn hyn does dim amheuaeth. Datganodd yr IPCC (UN International Panel on Climate Change) y mis yma fod tymheredd y blaned yn rhwym o godi’n sylweddol. Y brawddegau allweddol yn yr adroddiad yw’r rhain: Amcangyfrir bod gweithgareddau dynol wedi achosi tua 1.0°C o gynhesu byd eang yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol … Mae cynhesu byd eang yn debygol o gyrraedd 1.5°C rhwng 2030 a 2052 os yw’n dal i gynyddu ar y raddfa bresennol (hyder uwch). Ond er mwyn cadw’r cynnydd o dan 1.5°C byddai rhaid wrth ‘newidiadau cyflym, pellgyrhaeddol a heb gynsail, ym mhob agwedd ar y gymdeithas’ – tir, ynni, diwydiant, adeiladau, trafnidiaeth a dinasoedd. A dim ond deuddeg mlynedd sydd ar ôl i roi’r newidiadau ar droed. Fel arall bydd cynhesu yn fwy na 1.5°C, gyda chanlyniadau trychinebus – llifogydd a thywydd eithafol, colli llawer mwy o’r byd naturiol, yn arbennig pryfed, symudiadau mawr o bobl, a rhyfeloedd. Oni bai ein bod ni’n newid cyfeiriad yn llwyr, bydd 3° o gynhesu yn anochel. Does neb bron erbyn hyn yn ceisio gwadu geiriau’r gwyddonwyr. O’r diwedd mae’r BBC wedi rhoi stop i’w arfer anghyfrifol o wahodd Nigel Lawson ac eraill ar ei raglenni er mwyn ymosod ar wyddonwyr ar sail dim tystiolaeth. A hyd yn oed Donald Trump wedi stopio dweud taw cynllwyn byd-eang yw’r consensws am newid hinsawdd. Felly rhaid gweithredu – nawr, ac yn sylweddol Deuddeg mlynedd. Geiriau ysgytwol. Geiriau sy’n golygu bod dim dewis ond gweithredu nawr – eleni, y mis yma – i leihau’r lefelau o CO² sy’n mynd i’r awyr. Mae adroddiad yr IPCC yn gwbl glir ar y pwynt hwn. Dylai pawb ohonom – llywodraethau, cwmnïau a sefydliadau eraill, teuluoedd ac unigolion – newid sut rydym yn byw, ar unwaith ac mewn ffordd radical. Os dyna’r gwir, mae’n anodd osgoi casgliad allweddol i lywodraethau’r byd – dwi’n gosod o’r neilltu’r dyletswyddau sydd ar gwmnïau ac unigolion – sef bod dim byd pwysicach na gweithredu ar unwaith i osgoi rhagor byth o gynhesu. Golyga hyn fod popeth sy’n hoelio sylw ein gwleidyddion ni ar hyn o bryd – Bregsit, tlodi ac anghydraddoldeb, terfysgaeth, Bregsit eto – yn llai o flaenoriaeth nag achub y blaned. Ac os dyna’r gwir, mae gennym bob hawl i ofyn rhai cwestiynau moel i’n gwleidyddion, ‘Felly beth ydych chi’n ei wneud? Sut ydych chi’n mynd i gynllunio? Beth ydych ch’n mynd i ddisgwyl i ni – dinasyddion – ei wneud?’ Ymateb America a Phrydain Ar hyn o bryd, fodd bynnag, atebion llugoer, annigonol fydd yn dod nôl i’r ymholiadau hyn. Tynnodd Donald Trump yr Unol Daleithiau allan o gytundebau Paris (sy’n cynnig ffordd gychwynnol ymlaen, er eu bod yn annigonol), ac yn anwybyddu pawb sy’n galw iddo am newid cyfeiriad. Ym Mhrydain mae’r Ceidwadwyr mor awyddus i barhau eu brawddladdiad fel bod eu llywodraeth yn anwybyddu pob maes polisi bron, gan gynnwys newid hinsawdd. A phryd maen nhw yn penderfynu gwneud rhywbeth, maen nhw’n cyhoeddi polisïau sy’n difrodi yn hytrach na helpu’r amgylchedd – fel rhoi stop i godi ffermydd gwynt ar dir, rhoi anogaeth i gwmnïau ffracio, tynnu’r gefnogaeth ariannol i geir trydanol, neu ffrwydro’r cynllun i greu morlun Abertawe. Llywodraeth Cymru Beth am Gymru? Rhaid cydnabod ar unwaith na fydd impact polisïau gan wlad fach ar ddyfodol y blaned yn debyg o fod yn sylweddol. Hefyd, nad oes gan y Cynulliad ddigon o bwerau i wneud gwahaniaeth fawr mewn sawl maes, gan gynnwys polisi ynni, sy’n dal yn nwylo San Steffan. Ar y llaw arall, mae meysydd eraill lle mae gan y Cynulliad gyfle i fentro, a byddai’n braf gweld Cymru yn dangos esiampl dda i weddill Prydain a gweddill y byd. Beth yw record Llywodraeth y Cynulliad yn ddiweddar? (Mae digon o uchelgeisiau, deddfau, a llawer o strategaethau, ond yr unig beth sy’n cyfrif yw canlyniadau.) Cymysg, a bod yn onest. Mae’n wir fod Carwyn Jones yn barod i gefnogi ffermydd gwynt, a murlun Abertawe, ac wedi gwrthwynebu ffracio yng Nghymru. Ond allwch chi ddim enwi llawer o bolisïau Cymreig sy’n helpu’r newid o danwydd ffosil i ffynonellau adnewyddadwy o ynni mewn ffordd sylweddol. O ran trafnidiaeth, sy’n cyfrannu cymaint â 30% tuag at gynhesu byd eang, nid cymysg yw’r gair cywir, ond trychinebus. Roedd dim lleihad bron wedi bod yn y lefel o nwyon tŷ gwydr o Gymru rhwng 1990 a 2014. Ymddengys fod y Llywodraeth yn benderfynol o fwrw ymlaen â’i chynllun amheus i godi estyniad i’r M4 yn ardal Casnewydd. Y ddau ganlyniad o’r fenter hon, heb os, fydd sugno hyd yn oed mwy o draffig i’r draffordd (gan gynyddu lefelau llygredd), a dinistrio un o’r amgylcheddau mwyaf gwerthfawr yn y wlad, Gwastadeddau Gwent. Byddai canslo’r cynllun yn rhyddhau £1.4bn (mwy, yn ôl pob tebyg) i’w wario ar gynlluniau mwy positif. Yn ddiweddar cyhoeddodd y BBC wybodaeth am gost y cymhorthdal gan Lywodraeth Cymru i gwmni Aston Martin, i’w helpu i gynhyrchu ceir moethus (£19.8m) – prosiect fydd yn ychwanegu at lefelau CO² (er bydd y ceir cyntaf yn rhannol drydanol). Mae’r darlun cymysg hwn – rhai polisïau a chynlluniau canmoladwy ac eraill sy’n canslo allan yr enillion – ond yn symptom o’r ffaith fod y Llywodraeth yn bell iawn o drin cynhesu byd eang fel mater o bwysigrwydd dirfodol. Mae cynhesu’n dal i aros mewn basged â’r label ‘materion gwyrdd’ – i’w cefnogi os bosibl, ond i’w hanwybyddu os daw blaenoriaeth uwch, fel twf economaidd (esiampl dda: estyniad yr M4) – hyd yn oed os oes digonedd o dystiolaeth i ddangos taw canran fach iawn o’r boblogaeth yn unig sy’n elwa o unrhyw dwf yn yr economi. Beth ddylai ddigwydd? Mewn dau air, chwyldro meddyliol. Pam?  Achos bod dim arwydd bod pleidiau gwleidyddol Cymru yn sylweddoli’r angen i newid cyfeiriad mewn ffordd radical. Os edrychwch chi ar y maniffestos a’r datganiadau diweddar gan y gwahanol ymgeiswyr i arwain y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, mae’n amlwg nad oes ganddynt yr ymrwymiad na’r bwriad na’r ewyllys i drin cyfraniad Cymru i ddyfodol y blaned fel eu blaenoriaeth bwysicaf. Felly, dyw dewis y gair chwyldro ddim yn gor-ddweud. Bydd rhaid i’r Llywodraeth nesaf, a’r aelodau Cynulliad i gyd, fod yn barod i newid eu ffordd o feddwl, a’u dulliau o wleidydda. Dau beth gwahanol fydd eu heisiau wedyn: yn gyntaf, newid strategaeth y llywodraeth, a’r polisïau fydd yn dod yn eu sgil, ac yn ail, gwneud pob peth posibl i sicrhau bod pobl y wlad hefyd yn dihuno i’r angen dybryd a newid eu harferion eu hunain. Pa bolisïau newydd fyddai’n dilyn, petai’r chwyldro yn llwyddo? Dwi ddim yn arbenigwr amgylcheddol, ond dyma rai mesurau posib sy’n dod i’r meddwl ar unwaith: Canslo’r estyniad i’r M4 a defnyddio’r arian i wella trafnidiaeth fydd yn llai niweidiol i’r amgylchedd. Gwella’r rhwydwaith rheilffyrdd – nid yn unig yn ne-ddwyrain Cymru ond trwy’r wlad, gan adfer y cysylltiad rhwng y de-orllewin a’r gogledd-orllewin. Sicrhau gwelliant sylweddol yn y gwasanaeth bysus, sydd wedi dioddef mor ddifrifol dros y blynyddoedd o gynni. Dylai pawb gael eu defnyddio am ddim. Gweithredu fel bod cerbydau trydanol yn gyffredin ar ffyrdd Cymru cyn gynted â phosib – er enghraifft trwy gyflwyno rhwydwaith o bwyntiau ail-drydanu. Annog pobl i beidio â defnyddio ceir mewn dinasoedd a threfi, trwy roi blaenoriaeth i seiclwyr a cherddwyr, cyflwyno terfynau 20 milltir yr awr, a chyfyngu parcio. Annog (a gorfodi) busnesau sy’n llygru i wella eu perfformiad o ran eu heffeithiau ar yr amgylchedd Anelu at gynhyrchu llawer mwy o’n trydan trwy ddefnyddio ffynonellau adnewyddadwy. Dechrau rhaglen sylweddol i godi ymwybyddiaeth ymysg pobl Cymru am y peryglon, a’u dyletswyddau nhw. (Ydy rhai o’r rhain yn amhosibl o fewn pwerau presennol y Cynulliad? Os felly, dyna’r union bwerau y dylai’r Llywodraeth geisio eu derbyn o San Steffan.) Yn 2011 Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i orfodi siopau i godi tâl am fagiau plastig. Does dim rheswm pam na ddylai Cymru arwain y ffordd i wledydd eraill eto, gyda pholisïau sy’n llawer mwy pellgyrhaeddol. Be amdani, wleidyddion?


Storytime with Mama G
22/10/2018, 8:02 am
Ymunwch gyda ni a Mama G yn Llyfrgell y Rhyl am amser stori gyda gwahaniaeth. Yn cyfuno panto, drag a’r celf draddodiadol o ddeud stori. Bydd Mama G yn rhannu storiau am bod yn chi eich hun a caru unrhywun yr hoffech. Bydd y perfformiad yn cynnwys gwaith wedi ei gyhoeddi ac ysgrifennu newydd, gyda’r bwriad o neud i chi chwerthin, meddwl a caru. Llyfrgell Y Rhyl, 29ain Hydref, 2.30yh.


Cyfres Amdani: Jon Gower- Teithio Drwy Hanes
22/10/2018, 6:37 am
Yn y llyfr hwn mae Jon Gower yn mynd â’r darllenydd i 30 o leoliadau sy’n gysylltiedig â hanes Cymru. Mae’n esbonio pam mae’r lleoliadau yn bwysig yn hanes Cymru, ac mae e’n disgrifio eu harddwch a’u naws yn ei ffordd arbennig ei hun. Dyma flas i chi o’r llyfr… In this book, Jon Gower takes the reader to 30 different locations connected to Wales’ history. He explains why these places are important to Welsh history and describes their beauty and atmosphere in his own special way. Here is a taste of the book for you… Awdur: Jon Gower twitter.com/JonGower1 Price: £6.99 Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page. Level: Sylfaen / Foundation


Colofyndd Meddwl.org: Byw ym Mybyl Iselder / Living in a Bubble of Depression
21/10/2018, 11:45 pm
Mae nifer o bobl wedi cyfrannu at meddwl.org/category/myfyrdodau, lle maen nhw’n rhannu eu meddyliau a theimladau am fyw am fyw gyda salwch neu gyflwr iechyd meddwl. Yma, mae un o’r colofnwyr yn cyfrannu at parallel.cymru, gyda fersiwn Saesneg wedi’i ddarparu gan David Sutton. Mae’n ddisgrifiad agored, gonest a gwir am y profiad o fyw gydag iselder, fydd yn cael ei ddiweddaru bob pythefnos. A number of people have contributed to meddwl.org/category/myfyrdodau, in which they share their thoughts and feelings about living with a mental health condition or illness. Here, one of the columnists contributes to parallel.cymru, with an English version provided by David Sutton. It is an open, honest and real account of the the experience of living with depression, which will be updated fortnightly. Sut beth ydi byw efo iselder? / What is it like living with depression? I mi, mae fel trio ymladd brwydr dyddiol efo bob dim sy’n mynd rownd a rownd yn fy mhen i; teimladau, meddyliau, euogrwydd, cwestiynau, sylwadau pobl eraill. For me, it is like trying to fight a daily battle with everything going round and round in my head: feelings, thoughts, guilt, questions, what other people are saying. Dwi’n byw mewn bybyl. Dwi’n edrych allan o’r bybyl ar fywyd pobl o nghwmpas ond dwi ddim yn rhan o ddim byd nac yn perthyn i neb. Dwi’n bodoli, dyna’i gyd. I live in a bubble. I look out of the bubble on the life of people around me but I am part of nothing and I belong to no one. I exist, that is all. Mae’r dyfodol yn dywyll. Dwi ddim yn gweld dyfodol… Be ydw i’n weld? Cwestiwn da! The future is dark. I do not see a future. What do I see? Good question! O’r tu allan, efallai fod pobl yn meddwl mod i ddim yn pwsio fy hun, mod i’n gadael i bethau lifo ac yn ‘make-do’. Ond dwi yn pwsio fy hun – dwi’n pwsio fy hun i fynd i Tesco ar adeg pan dwi jyst isio aros yn y tŷ; dwi’n pwsio fy hun i wylio rhaglen deledu yn hytrach na gwrando ar y lleisiau yn fy mhen; dwi’n pwsio fy hun i olchi ngwallt ar ôl 3 (weithiau 4) diwrnod o beidio gwneud. Dwi’n pwsio fy hun, er gwaethaf pa mor fach ydi’r pwsh. From the outside, maybe people think that I do not push myself that I let things slide and ‘make do’. But I do push myself – I push myself to go to Tesco at a time when I just want to stay in the house; I push myself to watch a television program rather than listen to the voices in my head; I push myself to wash my hair after three (sometimes four) days of not doing so. I do push myself, however small the push may be. Dwi’n crio ar ddim. Na’i grio am rywbeth sydd wir yn meddwl rhywbeth i mi ac yn taro nghalon i, ond ar adegau eraill na’i grio am rywbeth dibwys. Roedd na raglen deledu ‘mlaen gen i ryw ddiwrnod neu ddau’n ôl a bu i blentyn redeg rownd cyfa’ mewn gêm rownders – nes i grio bryd hynny. Nes i grio pan oedd ‘na ‘sgodyn ar raglen Blue Planet yn methu dal rhyw blanhigyn i’w fyta. I cry at nothing. I will cry about something that really means something to me and touches my heart, but at other times I cry about something of no importance. There was a television program on a day or two ago and a child running all the way round in a game of rounders – I cried that time. I cried when there was a fish on the Blue Planet program that couldn’t find any plants to eat. Dwi’n flin ac yn ddi-fyned. Fedra’i fod yn teimlo’n reit dda ac yn cael diwrnod da nes mae un peth bychan yn troi’r drol – baglu ar garreg, mwy o fwd ar un esgid na’r llall, colli bag tê oddi ar lwy cyn cyrraedd y bin brown. Neith pethau fel ‘ma wneud i mi grio hefyd. I am tired and listless. I could be feeling quite good and having a good day until one little thing throws me – tripping on a stone, more mud on one shoe than the other, dropping a teabag from the spoon before I can get to the brown bin. Things like that will make me cry too. Mae trio gwneud penderfyniadau’n sialens – a dwi ddim yn sôn am benderfyniadau mawr. Dwi methu penderfynu pa dorth i brynu, pa het i wisgo, pa ffordd dwi am ddreifio adra. Mi fedra’i fod yn sdyc am tua 10 munud ar adegau’n methu gwneud penderfyniad gwbl syml. Trying to make decisions is a challenge – and I am not talking about big decisions. I can’t decide what loaf to buy, what hat to wear, what way home I want to drive. At times I can be stuck for about ten minutes unable to make quite simple decisions. Dwi’n poeni am fod yn niwsans i bobl. Poeni mai ond hyn sydd am ddod ohona i. Ar adegau dwi’n brifo fy hun oherwydd y ffordd dwi’n dehongli, neu’n hytrach yn camddehongli rhai o’r pethau mae pobl yn ei ddweud. Roedd poeni am beth mae bobl eraill yn ei ddweud neu’n ei feddwl ohona i yn arfer bod yn boen meddwl ac yn obsesiwn mawr. Fedrwn i fod yn poeni amdano am amser hir ac yn gweithio fy hun i fyny. Ond yn ara’ deg dwi’n symud ymlaen i beidio poeni. Mae’n anodd ac yn strygl dyddiol ond ‘di o ddim yn gymaint o ffocws i mi ag oedd o’n arfer bod. I worry about being a nuisance to people. Worry that this is only what will become of me. At times I hurt myself on account of the way I interpret, or rather misinterpret, some of the things that other people say. Worrying about what other people are saying or thinking about me used to cause me distress and become a great obsession. I might worry about it for a long time and work myself up. But slowly I’m moving on to stop worrying. It is difficult and a daily struggle but it’s not as much of a focus as it used to be. Dwi ‘di blino. Dwi ‘di blino ar drio meddwl pam mod i’n teimlo fel ‘ma. Dwi ‘di blino ar drio datrys pethau. Mae nghorff i’n drwm ac mae mhen i’n drwm. Ond dwi methu cysgu. I am tired. I am tired of trying to think why I feel like this. I am tired of trying to work things out. My body is heavy and my head is heavy. And yet I cannot sleep. Dau brif beth sy’n rhoi golau i mi ar ddiwedd y twnnel: Two main things that show me a light at the end of the tunnel: 1) Fy ffrind bach. Plentyn fy ffrind gorau. Mae’r ddyled sydd gen i i’m ffrind am adael i mi dreulio amser efo’r person bach arbennig yma, a hitha’n gwbod mod i’n fregus, yn un fawr a dwi’n ddyddiol yn ddiolchgar iddi. Dwi’n medru diffodd y pethau sy’n mynd rownd yn fy mhen pan dwi efo’r person bach. Mae’n rhoi pwrpas a ffocws i mi a dwi’n mwynhau chwarae a lliwio heb ffocysu ar y “llais” na. Mae’n braf medru eistedd efo fo’n gwylio cartŵn a chael cydyl bach. Mae’r cariad sydd gen i tuag ato fo mor gryf. 1) My little friend. Child of my best friend. The debt I owe to my friend for letting me spend time with this special little person, knowing that I am fragile, is a great one, and I am thankful to her every day. I can switch off the things that go round and round in my head when I am with the little person. He gives me a purpose and a focus and I enjoy playing games and colouring without focussing on that ‘voice’. It is great to be able to sit with him watching cartoons and having a little cuddle. The love I have for him is so strong. 2) Cerdded. Mi fedra’i gerdded am oriau ac mae’n rhoi rhyddid i mi oddi wrth fy meddyliau a nheimladau. Mae’n haws weithiau cerdded yn y glaw gan fod llai o bobl o gwmpas a mi fedrai smalio mai’r glaw ydi’r dagrau sy’n rhedeg lawr fy mochau. Ond does na’m curo cerdded mynydd ar ddiwrnod braf chwaith. 2) Walking. I could walk for hours and it gives me freedom from my thoughts and feelings. It is easier sometimes to walk in the rain because fewer people are around and I can pretend that the tears running down my cheeks are the rain. But nothing beats walking in the mountains on a fine day either. Mae dagrau yn bethau cyfarwydd iawn i mi yn ddiweddar… Lately tears very familiar things to me… Dwi wedi sôn eisoes am grio ond mae dagrau yn rhywbeth sy’n dod i mi bob nos. Ydw i’n crio fy hun i gysgu? Dwi ddim yn siwr, ond mae dagrau’n bendant yn ffactor pan mae’n amser trio cysgu. I have already mentioned crying but tears are something that come to me every night. Do I cry myself to sleep? I am not sure, but tears are definitely a factor when it is time to try to go to sleep. Mae’n fy ngwylltio i ac yn fy ngwneud i’n flin mod i methu mynd i weld nain ar adegau. Person sy’n arbennig iawn i mi a dwi’n cyfri fy hun yn lwcus iawn o’i chael yn fy mywyd. Ond am ddyddiau ar ôl ei gilydd dwi’n methu mynd i’w gweld achos dwi’n methu canolbwynio ar sgwrs. Dwi’n teimlo’n euog ac yn hunanol. It drives me mad and makes me so angry that at times I cannot go to see my grandmother. She is a very special person to me and I count myself very lucky to have her in my life. But for days on end I can’t go to see her because I can’t concentrate on making conversation. I feel guilty and selfish. Dwi’n cael gwahoddiad gan ffrindiau i fynd allan ond dwi ddim yn mynd. Dwi eisiau mynd ond dwi methu. Dwi ofn peidio medru cynnal sgwrs, crio yn eu cwmni ar rhywbeth dibwys neu ‘rhoi dampar’ ar eu noson a’u hwyl. Dwi ofn y byddai’n eistedd yno yng nghwmni criw o ffrindiau yn dweud dim – mae wedi digwydd o’r blaen ac mae’n deimlad afiach. Roeddwn i’n eistedd yno a doedd y geiriau methu dod o ngheg. A mwy oeddwn i’n meddwl am y peth, gwaeth oedd y teimlad yn mynd a mwy o amser oedd yn pasio. Mae’r profiad yma wedi aros efo fi a dydw i heb lwyddo i’w goncro hyd yn hyn. I get invitations from friends to go out but I don’t go. I want to go but I can’t. I am afraid of not being able to hold a conversation, of crying in their company for no reason or ‘putting a damper’ on their evening and their fun. I am afraid of sitting there in the company of a gathering of friends saying nothing – it has happened before and it is a horrible feeling. And the more I thought about the matter, the worse the feeling got and the more time went by. This experience has stayed with me and I have not yet succeeded in overcoming it. Mae sefyllaoedd cymdeithasol yn fy nychryn. Dwi’n tueddu i fedru ymdopi’n well efo grŵp bychan o bobl a rheiny yn bobl dwi’n medru ymddiried ynddyn nhw. Mae criw mawr o bobl yn gwneud i mi banicio. Dwi ofn colli ffrindiau o ganlyniad i’r salwch a’r ffordd y mae’n gwneud i mi ymddwyn. Social situations frighten me. I tend to be able to cope better in small groups of people, and those being people that I can trust. A big crowd of people makes me panic. I am afraid of losing friends as a consequence of my illness and the way it makes me behave. Ar adegau dwi methu codi ffôn i wneud galwad. Dwi’n gorfod paratoi fy hun i biciad allan i’r siop – paratoi fy hun am wahanol sefyllfaoedd fyddai’n gallu codi. Rhywbeth mor fychan a dod wyneb yn wyneb efo rhywun a gorfod gwneud sgwrs. Beth sydd mor ddrwg am hynny? Dwn i ddim, ond mae’n rwystr i mi. At times I cannot pick up the phone to make a call. I have to gear myself up to make a dash to the shops – prepare myself for different situations that could arise. Something as small as coming face to face with someone and having to make conversation. What is so bad about that? I don’t know, but it is an obstacle for me. Dwi’n gweld cwnselydd pob wythnos neu bythefnos, sy’n help. Dwi’n medru rhannu’r lleisiau, y meddyliau a’r teimladau sydd gen i heb boeni mod i am gael fy marnu. Mae hi’n rhoi awgrymiadau i mi ar wahanol bethau y medra i wneud. Mae hi’n gwneud i mi deimlo’n well amdana fi’n hun a mod yn gwneud cynnydd – rhywbeth nad ydw i’n sylwi fy hun ond wrth adrodd pethau, mae’n ymddangos yn gliriach rywsut. I see a counsellor every week or fortnight, which is a help. I can share the voices, the thoughts and the feelings I have without worrying that I am going to be judged. She gives me suggestions as to different things I can do. She makes me feel better about myself and that I am making progress – something I do not see for myself but by talking about things it somehow shows more clearly. Dwi’n ddiolchgar iawn i’m ffrindiau, yn enwedig fy ffrindiau agos, am eu hymdrechion i drio fy helpu. Ond anaml iawn y gwnai ofyn am help gan mod i ofn bod yn faich, creu trafferth neu bod yn niwsans. I am very grateful to my friends, especially my close friends, for their efforts to help me. But very rarely will I ask for help because I am afraid of being a burden, making trouble or being a nuisance. Fedra’i fod am oriau yn mynd dros hen sefyllfaoedd ac yn poeni’n hun yn sâl mod i wedi dweud neu gwneud rhywbeth o’i le. Os dwi heb dderbyn text yn ôl gan ffrind, dwi’n poeni mod i’n niwsans am fod wedi textio yn y lle cyntaf. I could spend hours going over old situations and worrying myself sick that I have said or done something out of place. If I have not had a text message back from a friend, I worry that I am a nuisance for having texted in the first place. Pan fyddai wedi medru pwsio fy hun i wylio rhaglen deledu neu ddarllen llyfr neu gylchgrawn, yn aml fyddai’n ffeindio fy hun yn ail-chwarae’r rhaglen neu ail-ddarllen yr un dudalen drosodd a throsodd gan mod i methu canolbwyntio. Mae fy meddwl i’n crwydro’n hawdd ac mae’n anodd ei gael yn ôl ar adegau. When I have been able to make the effort to watch a television program or read a book or magazine, I frequently find myself replaying the program or rereading the same page over and over again because I have not been able to concentrate. My thoughts easily wander off and at times it is difficult to get them back. Pwy ydw i? Dwn i ddim bellach. Dwi’m yn adnabod fy hun. Who am I? I no longer know, I do not know myself. Dwi’n aml yn rhoi “ffrynt” ymlaen pan fyddai efo pobl eraill – ond i guddio be neu pwy, dwn i ddim. Dwi’n gweithio ar drio dod o hyd i fi fy hun. Dwi’n bendant ddim yr un person ag oeddwn i’n arfer bod. Ond os ddoi o hyd i fi’n hun a bod yn hapus efo hynny, fyddai’n fodlon ac yn falch. I often put on a ‘front’ when I am with other people – but to hide what or who, I don’t know. I work at trying to find myself. I am definitely not the same person I used to be. But if I were to find myself and be happy with it, I would be contented and proud. Mae’n anodd egluro i rhywun sut beth ydi iselder. Mae profiad pawb yn wahanol ac os nad ydi rhywun wedi bod drwyddo eu hunain, does na’m posib iddyn nhw ddeall – sy’n wir am holl brofiadau bywyd. Mae’n siŵr mai’r hyn sy’n anodd i bobl eraill ddeall ydi ngweld i’n ymddangos yn “ok”, yn medru cymryd rhan mewn gweithgaredd neu’n medru sgwrsio’n agored. Ond yr hyn nad ydyn nhw’n ei weld ydi y gallaf fod wedi llithro’n ôl i’r tywyllwch ymhen ychydig oriau wedyn. It is difficult to explain to someone what depression is like. Everyone’s experience is different and if someone has not been through it themselves, it is impossible for them to understand – which is true of all life’s experiences. What is probably difficult for other people to understand is to see me appearing to be “ok”, being able to take part in an activity or talk openly. But what they do not see is that a few hours later I can be slipping back into the darkness. Dois ar draws y dywediad yma ychydig o ddyddiau’n ôl a dwi’n meddwl ei fod yn ffitio’n berffaith wrth feddwl am iselder: I came across this passage a few days ago and I think it expresses perfectly the idea of depression: “Dydy’r ffaith fy mod wedi medru ddoe ddim yn golygu y medra’i heddiw. Ac er fy mod wedi methu heddiw, dydy hynny ddim i ddweud y byddai’n methu fory”. “The fact that I could yesterday does not mean that I can today. And although I have been unable to today, that is not to say that I will be unable to tomorrow”. Dwi wedi rhoi blas ar ddiwrnod yn fy mywyd o fyw efo iselder. Bydd fory yn ddiwrnod arall. O bosibl, fyddai ddim yn teimlo’r union yr un fath fory. Efallai y bydd yn ddiwrnod gwell, neu gall fod yn ddiwrnod gwaeth. I have given a taste of my life of living with depression. Tomorrow will be another day. Possibly I will not feel the same tomorrow. Perhaps it will be a better day, or it may be a worse day. Ond bydd yn ddiwrnod gwahanol… But it will be a different day… Mae iselder yn gwneud i mi bellhau fy hun oddi wrth y bobl sydd agosaf ata’i ac ar adegau yn gwneud i mi eu gwthio i ffwrdd. Does gennai’m syniad pam ac ar adegau mae’n beth dryslyd a poenus. Depression makes me distance myself from the people who are closest to me and at times makes me push them away. I have no idea why and at times it is so complicated and painful. Dwi’n derbyn bod hyn yn anodd i’r rhai o fy nghwmpas hefyd – os nad ydw i’n gwybod pam mod i’n eu gwthio i ffwrdd, does dim disgwyl iddyn nhw wybod na deall be sy’n mynd ymlaen. Dwi’n brifo fy hun a’u brifo nhw. I accept that it is also difficult for those around me – if I don’t know why I push them away, they can’t be expected to know or understand what is going on. I hurt myself and hurt them. Weithiau mae’n haws gwthio pobl i ffwrdd yn hytrach na trio smalio mod i’n iawn neu rhoi gwyneb ymlaen. Mae’n haws na gwynebu pa mor bell dwi wedi disgyn i ffwrdd o’r person oeddwn i’n arfer bod a pa mor dywyll mae pethau yn medru bod. Mae smalio i rhywun arall gymaint anoddach na smalio i fi’n hun. Wrth fod o gwmpas pobl eraill, mae’n fy atgoffa pa mor bell ydw i o beidio bod yn iawn. Sometimes it is easier to push people away rather than try to pretend that I am all right or put a front on. It is easier than facing up to how far I have fallen away from the person I used to be and how dark things can be. Pretending to another person is so much more difficult than pretending to myself. When I am around other people, it reminds me how far I am from being all right. Sgenai ddim egni. Dim egni i fi fy hun na i wneud unrhyw beth. Mae hyn yn gallu bod yn anoddach fyth pan dwi o gwmpas pobl eraill – dwi’n gorfod smalio fod gennai egni. Ond y gwir ydi, does gennai ddim yr egni i ddilyn sgwrs, i gyfranu i sgwrs neu hyd yn oed i chwerthin. Dwi’n ofni wedyn bod y bobl o’n nghwmpas yn sylweddoli hyn ac yn meddwl mod i’n bod yn anghwrtais a ddim eisiau bod yn eu cwmni. Ond dwi isio bod efo nhw, dwi isio chwerthin, bod yn rhan o sgwrs a dod i wybod am yr hyn sydd yn mynd ymlaen yn eu bywydau nhw, ond mae’r diffyg egni yn fy nhynnu i lawr. Weithiau, yr unig beth dwi isio ydi cael hug gen ffrind ac eistedd efo nhw yn dawel. Dim ond fod na gwmni wrth fy ochr, does na’m rhaid dweud dim wrth y naill na’r llall. Ond dwi ofn gofyn, gennai ofn bod hyn yn gwastraffu eu amser a fod ganddyn nhw bethau gwell i neud. Ofn mod i’n bod yn hunanol. I have no energy. No energy for myself nor to do anything. This can be even more difficult when I am around other people – I have to pretend that I do have energy. But the truth is, I have no energy to follow a conversation, to take part in a conversation, or even to laugh. I am afraid then that people around notice this and think I am being discourteous and not wanting to be in their company. But I do want to be with them, I do want to laugh, to be part of a conversation and get to know what is going on in their lives, but the lack of energy drags me down. Sometimes, the only thing I want to do is get a hug from a friend and sit with them quietly. Just their company beside me, no need for either of us to say anything. But I am afraid to ask, afraid that this is a wasting their time and that they have better things to do. Afraid that I am being selfish. Yn y foment, mae’r emosiwn mor gryf dwi ddim yn sylweddoli be sy’n mynd mlaen… In the moment, the emotion is so strong that I don’t notice what is going on… Dwi’n mynd yn ddiamynedd ac yn annifyr efo pethau, a weithiau efo pobl, yn hawdd. Rhan fwyaf o’r amser fy rhieni sy’n dioddef hyn gennai gan mai nhw dwi’n ei weld amlaf. Dwi’m yn trio bod yn ddiamynedd nac yn anifyr ond weithia dwi methu helpu’n hun. Yn y foment, mae’r emosiwn mor gryf dwi ddim yn sylweddoli be sy’n mynd mlaen, ond wedi ychydig funudau ac wrth gymryd cam yn ôl o’r sefyllfa dwi’n teimlo’n flin efo fi’n hun am ymddwyn fel y gwnes i. Pa hawl sydd gennai i fod yn flin efo bobl am ddim rheswm neu am ddisgwyl iddyn nhw wybod neu deall rhywbeth. Dwi wedi anfon txt at wahanol bobl cyn heddiw i ymddiheuro am fy ymddygiad – am fod yn flin, am beidio sgwrsio llawer, am fod yn ddistaw. Dwi’n teimlo’n aml bod angen i mi ymddiheuro am fy ymddygiad. I easily become impatient and awkward with things, and sometimes with people. Most of the time it is my parents who suffer this because it is them I see most often. I try not to be impatient or awkward but sometimes I can’t help myself. In the moment, the emotion is so strong that I don’t notice what is going on, but after a few minutes and taking a step back from the situation I feel annoyed with myself for behaving in the way I did. What right have I to feel annoyed with people for no reason or expect them to know or understand something. I have sent texts to various people before now apologising for my behaviour – for being cross, for not talking more, for being quiet. I often feel that I need to apologise for my behaviour. Dwi’n teimlo wedyn bod pobl ddim isio i mi fod o’u cwmpas. Er bod pobl yn gwneud a dweud pethau sy’n cefnogi’r ffaith eu bod eisiau bod yn fy nghwmni, dwi ddim yn eu coelio a dwi’n meddwl eu bod yn dweud neu gwneud y pethau dim ond i mi deimlo’n well. Dwi ddim yn deall pam y byddai rhywun eisia treulio amser efo fi a finnau fel hyn – dwi’n poeni nad oes gennai ddim i’w gynnig neu mod i am fod mewn hwyliau isel neu yn crio. Ond, os na fyddai wedi cysylltu efo ffrind ers chydig ddyddiau neu nhw heb gysylltu efo fi, byddai’n teimlo bod yr hyn dwi’n teimlo am fy hun yn dod yn wir a’u bod nhw wirioneddol yn meddwl yr un peth amdana’i – eu bod wedi cael llond bol ohonai a mod i’n eu tynnu i lawr. Then I feel that people don’t want me around them. Although people do and say things which support the fact that they do want my company, I don’t believe them and I think that they are doing or saying the things only to make me feel better. I do not understand why someone would want to spend time with me when I am the way I am – I worry that I have nothing to offer or that I am going to be in low spirits or cry. And yet, if I have not been in touch with a friend for a few days or they have not been in touch with me, I will feel that what I feel about myself is coming true and they are indeed thinking the same thing about me – that they are fed up with me and that I am dragging them down. Dwi’n teimlo fel llanast… I feel like a mess… Dwi’n ymwybodol mod i ddim yn fi fy hun a fod yr iselder wedi cymryd drosodd a wedi llyncu pob owns o egni a brwdfrydedd ohonai. Dwi’n teimlo fel llanast. Dwi’n ei chael yn anodd adnabod fy hun a mae hynny yn codi cywilydd arnai. Yn aml na’i ddim gadael i bobl yng ngweld i felma. Unai na’i aros nes dwi’n cael cyfnod gwell neu na’i beidio mynd allan fel mod i ddim yn gorfod gwynebu neb. Ar adegau eraill, does dim ots gennai sut olwg sydd arnai na faint o lanast dwi ynddo. I am conscious that I am not myself and that the depression has taken over and swallowed up every ounce of my energy and enthusiasm. I feel like a mess. I find it difficult to recognise myself and this arouses shame in me. Often I will not let people see me like this. Either I wait till I have a better time or I avoid going out so that I don’t have to face anyone. At other times, it makes no difference to me how I look or what sort of mess I am in. Dwi’n teimlo mod i’n faich i bobl eraill, yn aml iawn. Dwi’n teimlo y byddwn i’n tynnu bobl eraill i lawr os dwi yn eu cwmni. Dwi’n teimlo nad ydi pobl yn medru fy nhrin fel y person dwi’n arfer bod, ymddired yna’i fel oedden nhw’n arfer gwneud neu cael hwyl efo fi fel yr hen amser. Dwi’n niwsans – niwsans bod yr iselder ‘ma wedi dwyn pob dim oddi arnai. Dwi ofn bod fy ffrindiau methu dweud wrthai am be sy’n mynd mlaen yn eu bywyd – eu bod wedi cael digon ohonai, mod i ddim yn ymateb yn y ffordd oeddwn i’n arfer gwneud neu eu bod nhw yn syml ddim isio fi wybod na bod yn rhan o’r peth. Dwi wedyn ofn cael fy mrifo – ofn i bobl flino cyn gymaint arnai eu bod yn rhoi diwedd ar ein perthynas ac yn cerdded i ffwrdd. Weithiau mae’n haws i mi deimlo’n unig na poeni pryd mae rhywun am gael digon ohonai. I very often feel that I am a burden to other people. I feel that I am dragging other people down if I am in their company. I feel that people are not able to treat me like the person I used to be, cannot rely on me the way they used to do or have fun with me as in the old days. I am a nuisance – a nuisance that this depression has taken everything away from me. I am afraid that my friends cannot tell me what is going on in their lives – that they have had enough of me, that I don’t respond in the way I used to or that they simply do not want to know me or be part of the matter. Then I am afraid of being hurt – afraid that people will grow so tired of me that they will put an end to our relationship and walk away. Sometimes it is easier for me to feel lonely than worry about a time when people have had enough of me. Mae na elfen o fod ofn agor i fyny gormod rhag i mi eu brifo… There is an element of being afraid to open up too much in case I hurt them… Dwi ofn brifo pobl. Ddim yn aml iawn y byddai’n bod yn gwbl onest efo’r rhai sydd agosaf atai am yr hyn dwi’n deimlo. Ond yn ddiweddar dwi wedi darganfod bod sgwennu pethau i lawr a rhoi hwnnw iddynt i ddarllen yn llawer haws a wedi bod yn help mawr – i mi ac iddyn nhw. Mae ambell i berson dwi wedi rhannu’r darnau sgwennu â hwy wedi dod yn ôl atai i ddweud ei fod wedi bod yn agoriad llygad ac yn help iddyn nhw ddeall sut dwi’n teimlo. Mae rhai wedi gofyn mwy am yr hyn dwi wedi ei sgwennu. Dydi rhai eraill heb ddweud cyn gymaint – efallai nad ydynt yn gwybod sut i ymateb neu eu bod yn hapusach gwybod sut dwi’n teimlo ond nad ydynt yn awyddus i drafod y peth ymhellach. I am afraid of hurting people. Not very often will I be completely honest with those closest to me about what I am feeling. But lately I have discovered that writing things down and giving this to them to read is much easier and has been a great help – to me and to them. Some people I have shared pieces of writing with have come back to me to say that it has been an eye-opener for them and helped them to understand how I feel. Some have asked more about what I have written. Others have not said as much – perhaps they do not know how to respond or are happier knowing how I feel but are not keen to discuss the matter further. Dwi’n ei gweld yn haws i bobl ofyn rhywbeth i mi na i mi drio cychwyn sgwrs am sut dwi’n teimlo. Dio ddim problem gennai siarad gyda’r rhai sydd agosaf atai, petawn nhw wir isio gwybod sut dwi’n teimlo, ond dwi’n teimlo’n euog os dwi’n dechrau siarad am y peth yn gyntaf, fel mod i’n bod yn hunanol. Mae na elfen o fod ofn agor i fyny gormod rhag i mi eu brifo. Byddwn i’n casau ac yn ei gweld mor anodd darllen rhywbeth fel hyn am fy ffrind felly fedra’i ond dychmygu sut beth ydi o iddyn nhw ddarllen rhywbeth mor bersonol amdana i. Mae’n rhaid i mi fod yn wyliadwrus o’u teimladau nhw a sut gall y peth eu effeithio nhw. I see it as easier for people to ask me something than for me to try to start a conversation about how I feel. I have no problem talking with those closest to me, if they truly want to know how I am feeling, but I feel guilty if I start talking about it first, as if I am being selfish. There is an element of being afraid to open up too much in case I hurt them. I would hate, and can see how hard it would be, to read something like this about a friend of mine, so I can only imagine what it is like for them to read something so personal about me. I must take account of their feelings and how the matter affects them. I mi, mae fel trio ymladd brwydr dyddiol efo bob dim sy’n mynd rownd a rownd yn fy mhen i; teimladau, meddyliau, euogrwydd, cwestiynau, sylwadau pobl eraill. meddwl.org/category/myfyrdodau post@meddwl.org  ~  Facebook  ~  Twitter  ~  Instagram  


Yli heinus, Uli Hoeness
21/10/2018, 10:04 pm
Gwerthodd clwb pêl droed Bayern Munich Juan Bernat i glwb Paris Saint-Germain am £13miliwn yn ystod yr haf. Ddydd Gwener, eglurodd Llywydd y clwb o’r Almaen, Uli Hoeness, iddyn nhw wneud hynny wedi i’r chwaraewr gael gêm ‘drybeilig o wael’ yn erbyn Sevilla yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop y tymor diwethaf.  ‘Yn y gêm honno’, meddai Hoeness, ‘ei fai o yn unig oedd i ni bron â cholli.  Y diwrnod hwnnw, mi benderfynwyd ei werthu am i ni o’i herwydd bron â cholli pob gobaith am lwyddiant yng Nghynghrair y Pencampwyr.’  Bernat druan: debyg ei fod yn falch iddo adael Bayern. Rhyfedd oedd clywed Hoeness yn pardduo Bernat ddydd Gwener gan fod Prif Weithredwr Bayern, Karl-Heinz Rummenigge, yn yr un gynhadledd i’r wasg, wedi bygwth cyfraith ar ohebwyr chwaraeon yr Almaen sydd wedi meiddio beirniadu chwaraewyr ei dîm ers dechrau’r tymor pêl droed newydd. Yn anarferol ac annisgwyl, mae Bayern wedi dechrau’r tymor yn wael iawn ac wedi dod o’r herwydd dan lach y Wasg.  Ond mae prif  swyddogion y clwb wedi cael llond bol ar eiriau ‘difrïol a dirmygus’ y gohebwyr sydd yn eu barn hwy yn tramgwyddo yn   erbyn cyfansoddiad neu ‘Gyfraith    Sylfaenol’ yr Almaen trwy ymosod ar urddas dynol y peldroedwyr. Diddorol fydd gwybod a fydd y clwb yn mynd i gyfraith ai peidio.  Diddorol hefyd fyddai gwybod sut y byddai’r llysoedd yn ymateb i’r ymdrech i erlyn gohebwyr am fynegi barn onest am safon chwarae diweddar tîm Bayern.  Nid dyna sydd o ddiddordeb i mi ar hyn o bryd fodd bynnag ond rhagrith y clwb, sydd ar y naill law yn cyhuddo’r Wasg o amharchu ei chwaraewyr ac ar y llaw arall yn bwrw sen yn gyhoeddus a digywilydd ar un o’i gyn-chwaraewyr. Nid peth newydd yw’r rhagrith hwn, ac nid yw wedi ei gyfyngu i bwysigion cyfoethog byd pêl droed proffesiynol.  Mae’r duedd i bobl feirniadu eraill am yr union feiau y maent hwy eu hunain yn euog ohonynt yn wendid cyfarwydd heddiw, fel yn nyddiau Iesu Grist ac ym mhob oes. Y sylweddoliad hwn a wnaeth i Iesu ddweud yn y Bregeth ar y Mynydd; ‘Peidiwch â barnu, rhag ichwi gael eich barnu; oherwydd fel y byddwch chwi’n barnu y cewch chwithau eich barnu, ac â’r mesur a rowch y rhoir i chwithau. Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn  llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun?  ’ (Mathew 7:1–3). Uli Hoeness, yli heinus dy eiriau.  Ie, yli mor afiach yw beirniadu pobl eraill a thithau’n euog o’r un bai.  Sut elli di feirniadu’r gohebwyr am ladd ar eich chwaraewyr chi a thithau mor barod i wneud yr un peth i Juan Bernat?  Yli mor sâl wyt ti a ninnau pan anghofiwn y Rheol Euraidd a roddwyd i ni gan Iesu; ‘Fel y dymunwch i eraill wneud i chwi, gwnewch chwithau yr un fath iddynt hwy’ (Luc 6:31). Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 21 Hydref, 2018


Gwarchod y Ddraig
20/10/2018, 7:47 pm
Dyma bwt a ‘sgwennais ar gyfer tudalen flaen Yr Odyn, Hydref 2018 – papur bro Nant Conwy, y pentrefi Cymraeg gwledig sy’n cwmpasu ‘Dre’ (Llanrwst).  Ydych chi’n gwylio cyfres gomedi newydd BBC Wales, Tourist Trap? Wedi’i hysgrifennu gan Sian Harries, Gareth Gwynn a Tudur Owen sydd hefyd yn serennu ochr yn ochr ag Elis James ac eraill, mae’n tynnu blewyn o drwyn y cwango twristiaeth Wow! Walesdan arweiniad Saesnes a chriw PR digon di-glem. Nid mod i’n awgrymu unrhyw debygrwydd â ‘Croeso Cymru’ am eiliad – tîm fu’n gyfrifol am ymgyrch farchnata £5 miliwn y llynedd a arweiniodd at ddim ond 0.5% yn fwy o ymwelwyr tramor i Gymru. Cymharwch hyn â chynnydd o 17% o dwristiaid rhyngwladol i’r Alban. Dyma un o straeon diweddar Y Byd yn ei Le gyda Guto Harri, a gododd gwestiynau poenus am strategaeth fethiannus Visit Wales (waeth inni ddefnyddio’r teitl Saesneg ddim, fel diwydiant a bydolwg Seisnig ar y naw). Cwyn perchennog gwesty o Aberystwyth oedd bod llai o arweiniad a chydweithio i godi safonau ers diddymu’r Bwrdd Croeso 12 mlynedd yn ôl. Ac yn ôl Sean Taylor, dyn busnes o’r Dyffryn a pherchennog atyniadau hynod lwyddiannus Zip World, dim ond tua 2% o’i gwsmeriaid sy’n hanu o’r tu hwnt i’r Deyrnas Gyfunol. Ei ateb? Llawer mwy o gyllideb marchnata a chysylltiadau trafnidiaeth ganmil gwell na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Hen gŵyn i ni sy’n gyrru’n rheolaidd ar ffordd drol genedlaethol yr A470 wrth gwrs. Ond ateb radical Sean oedd cael ein maes awyr ein hunain yn y Gogledd, gyda chysylltiadau hwylus â dinasoedd Ewrop – yn lle disgwyl iddyn nhw hedfan i Fanceinion cyn wynebu dwy awr arall ar hyd yr A55 i gyrraedd pen y daith. Wedi’r cwbl, mae gan yr Alban pum maes awyr. Dim ond Caerdydd ’sgynnon ni. Meddyliwch mewn difrif calon pa mor chwyldroadol fuasai Mona International. Dychmygwch petaem ni wedi defnyddio arian Ewrop a buddsoddi i’r eithaf ym maes awyr Caernarfon, Penarlâg neu hyd yn oed leoliad newydd canolog ar wastadeddau Abergele. O wel. Rhy hwyr codi pais r’ôl piso Brexit… Tawedog iawn oedd ymateb Llywodraeth Cymru a’r sioni bob lliw o Weinidog Twristiaeth, Dafydd Êl, i’r rhaglen gyda llaw. Pwy sy’n atebol?! Pwnc cysylltiol arall ydi Cymru fel brand. Gydol fy nheithiau tramor mynych ar hyd y blynyddoedd, o Barcelona i Oslo, sylwais fod mwy a mwy yn gwybod amdanom Ni. Diolch yn bennaf i fyd y campau, ac anturiaethau anhygoel y Cochion yn Ewros 2016 a llwyddiant Geraint Thomas a lapiodd eu hunain yn y Ddraig Goch gerbron cynulleidfaoedd teledu o filiynau ledled Ewrop a thu hwnt. Oes, mae gennym ni faner cwbl unigryw. Rhaid ei chwifio i’r eithaf a pheidio byth â gadael i Alun Cairns na llywodraeth San Steffan wneud hynny. Pwy sy’n cofio neuadd fwyd Sioe Llanelwedd eleni wedi’i phlastro â Jac yr Undeb dan ymgyrch slafaidd “Food is Great (Britain)”? Y Gymraeg hithau. Dyna chi drysor ac arf anhepgor arall i’w ddefnyddio mewn ymgyrchoedd marchnata o bob math. Mae gennym ni fantais aruthrol i’r Alban yn hyn o beth. Iaith fyw gyda’r cryfaf o’r gwledydd Celtaidd, arwyddion dwyieithog (gyda pholisi cenedlaethol Cymraeg yn gyntaf yn ddelfrydol), sianel deledu gynhenid sy’n allforio actorion a dramâu i bedwar ban. Roedd Americanwyr y cwrddais i â nhw yn Copenhagen wedi mopio ar gyfres Y Gwyll ar Netflix UDA a Chanada, a miloedd mwy wedi dotio ar acen GymreigMatthew Rhys wrth dderbyn tlws actor gorau yng ngwobrau’r Emmys yn ddiweddar. Hysbysebion gwyliau, labeli cig oen, iogwrts a jin, ditectifs teledu. Mae’r angen i hyrwyddo a heipio ein hunain yn bwysicach nag erioed, yn y dyddiau ansicr Prydeinllyd sydd ohoni.


Fydd y chwyldro gwleidyddol ddim ar y teledu gyfaill
20/10/2018, 6:15 pm
Bues i ar fy nhrafals yn ddiweddar. Stockholm y tro hwn. Dinas wâr, lân, gyda strydoedd coblog ag adeiladau siwgr eisin, amgueddfeydd a chaffis yn ymestyn dros 14 o fân ynysoedd. Parch i feicwyr a theuluoedd a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. A rhyw obsesiwn anghynnes â“chomedïau” Americanaidd a Call the Midwife. Doedd dim modd dianc rhag uffern Brexit (Breg-ziti ambell ohebydd Cymraeg) chwaith, gyda newyddion SVT yn rhoi blaenoriaeth i ymweliad aflwyddiannus diweddar Mrs May â’r UE. Dychwelyd adre wedyn i weld bod ein Sianel Genedlaethol yn rhoi llwyfan i ddynas amhoblogaidd arall, un sy’n ennill bywoliaeth trwy ladd ar leiafrifoedd. Katie Hopkins a saciwyd gan orsaf radio LBC (“Leading Britain’s Conversation”). Katie Hopkins a ymddangosodd yng nghynhadledd gwrth-Fwslimaidd For Britain ochr yn ochr â gwadwr yr Holocost. Katie Hopkins fu’n llygru strydoedd Caerdydd yn ddiweddar wrth sgowtio am “stori” yn erbyn addysg Gymraeg. A Katie Hopkins gafodd rwydd hynt i ymddangos ar S4C gyda’i “friend” Guto Harri. Yn y diwedd, wedi “twrw byddarol” ar y cyfryngau cymdeithasol, cafodd cyfweliad KH ei ailawampio’n drafodaeth ar sut mae ymateb i ffigurau mor ddadleuol â hon. Ond damia, mae Guto’n gyflwynydd graenus a dw i’n mwynhau Y Byd yn ei Le o stabl newyddiadurol ITV Cymru, ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth barn i dra-arglwyddiaeth y Gorfforaeth Brydeinig. Cyfres sy’n barod i ofyn cwestiynau pigog am bethau fel ein hawl i elwa ar werthu ein cyfoeth o ddŵr i Loegr awchus a methiant llwyr Visit Wales i ddenu rhagor o ymwelwyr tramor (0.5% o gynnydd yn 2017 o gymharu ag 17% i’r Alban). A pha mor haerllug oedd ein sioni bob lliw o Weinidog Twristiaeth, yn gwrthod ymddangos ar y rhaglen? Diffyg atebolrwydd, hwnna ydi o. Mae ’na ddeunydd *comedi’n fan’na. O ffêc news i fyd drama, a chroeso hirhoedlog i gyfres newydd yn slot boblogaidd nos Sul ers i Craith orffen yn y gwanwyn. Bu’n ormod o fwlch. Doeddwn i ddim yn ffan anferthol o Byw Celwydd ar y gorau, ac eithrio dawn deud y diweddar Meic Povey a pherfformiad Richard Elfyn fel y gwladweinydd bron yn gartwnaidd o dan dîn. Roedd y gerddoriaeth honci-tonc a’r holl gecru ailadroddus yn blino rhywun, a braidd neb o’r cymeriadau’n ennyn cydymdeimlad. Beiwch Borgen o Ddenmarc am osod y safon. Ond fe newidiodd cywair y gyfres ddiwethaf, wrth i glymblaid fenywaidd ac arweinydd newydd (Ffion Dafis) ddod i’r fei. Sy’n eironig, â’r Dynion wrth y llyw y Bae ar hyn o bryd. Diffyg gwreiddiau oedd thema’r bennod gyntaf i bob pwrpas. Rhiannon am werthu Tŷ Cymru, cartre’ swyddogol y Prif, er budd yr Ysbyty Plant; y cyn-brif weinidog Meirion Llywelyn a’i wraig yn ei ryffio hi mewn gwesty pum seren; Dylan (y Cenedlaetholwr) a Catrin (y Democratiaid) ar chwâl; a chwmni modurol o Abertawe yn bygwth codi pac i’r Almaen achos y busnes “B” ’ma. Ac yn y canol, cryn dipyn o sbeit a slochian gwin, cyfweliadau teledu, a’r hacs Tom ac Angharad yn dal i gael mynediad orgyfleus i swyddfeydd y pleidiau. Gobeithio y cawn ni fwy o wleidydda yn y Siambr a chip ar gartrefi’r aelodau ym mhenodau’r dyfodol – mae’r gwibio o un swyddfa cod lliw i’r llall yn ailadroddus ar y naw, ac yn prysur lethu amynedd yr hwn o wyliwr. *Comedi i gloi, a golwg ddychanol BBC Wales ar y diwydiant croeso. Dim Dafydd Êl, ond digonedd o actorion comedi medrus fel Elis James, Sally Phillips a Mike Bubbins yng nghyfres ffug-ddogfennol Tourist Trap am gwango wedi’i arwain gan Saesnes a chriw PR reit anobeithiol. Efallai nad yw mor ‘ffug’ â hynny wedi’r cwbl.  Diolch Sian Harries, Tudur Owen a Gareth Gwynn am adfer fy ffydd mewn comedi Saesneg o Gymru a chladdu hunlle High Hopes am byth.


S’long Sheryl Ann!
20/10/2018, 6:09 pm
Ro’n i wedi amau byth ers neges a llun ar gyfrif trydar un o gyfresi arfaethedig y Sianel, @35AWR1. Ynddi, roedd cast o ddeuddeg aelod o’r rheithgor mewn drama waedlyd wedi’i ’sgwennu gan Fflur Dafydd, yn eu plith, Lisa Victoria sy’n fwy enwog inni fel Sheryl Ann Hughes (née Howarth, née Llywelyn) ers 17 mlynedd. A dyna feddwl yn syth bín mai hi fyddai’n gadael Cwmderi mewn hers, yn stori fawr yr haf Pobol y Cwm. Sheryl druan â’i hoffter o bopeth pinc a dynion anaddas. Sheryl hirddioddefus a gafodd ei siâr o gariadon anghynnes, yn gelpwyr, godinebwyr, treiswyr a hyd yn oed paedoffeil. A Sheryl fythol fyrlymus a gyrhaeddodd y Cwm yn llawn sgrech a sodlau uchel, ond a adawodd yn gelain ar waelod grisiau fflat y Salon. Gair i gall – peidiwch â gadael bocsys cardbord gwag ar ben landin. Na phechu hanner eich cydbentrefwyr. Fe gafodd yr actores ddigon o straeon heriol i’w hymestyn i’r eithaf, yn enwedig y trallod o golli’r bychan, Meilyr. A hyd yn oed pan oedd ambell actor, egstra neu stori amaturaidd yn llethu’r amynedd, gallech ddibynnu ar Lisa Victoria i sicrhau safon a sglein ochr yn ochr ag Andrew Teilo, Richard Lynch a Nia Caron. Gwae chi snobs sebon ag actorion cystal â’r rhain wrthi. Nid bod pob elfen o’r stori ddirgelwch yn taro deuddeg chwaith, gyda Sheryl yn ast amhoblogaidd y Cwm mewn mater o bennod, rhestr o amheuwyr amheus (Siôn White, wir?) a phawb yn trin Esther fach yn hŷn na’i hoed. Pobol y Cwm oedd pencampwr gwylwyr y Sianel ers talwm. 126,000 yn 2007 medd adroddiad blynyddol y flwyddyn honno. 71,000 oedd ffigur uchaf 2017/18 yn ôl Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol diweddaraf S4C. Gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol sydd ar y brig bellach. ’Feiddiai ychwanegu arlwy rhagorol Seiclo at y rhestr honno eleni, diolch i orchestion y llanc o’r Eglwys Newydd? I fod yn deg, mae miloedd mwy ohonom yn gwylio ar declynnau a dyfeisiau symudol heddiw, ac yn dal i fyny ar wasanaethau Clic ac Iplayer. Mae’r niferoedd sy’n gwylio teledu ‘byw’ cyn brinned â datganiadau Alun Cairns heb Jac yr Undeb. Trowch i wefan twitter, ac mae’r hashnod #pobolycwm yn dangos mai’r di-Gymraeg sy’n ymateb fwyaf i’r gyfres – prawf pendant a chadarnhaol o apêl ehangach S4C ac omnibws y Sul. Am ryw reswm, fe wnaeth mudiad Dyfodol i’r Iaith ladd ar y gyfres am “…y defnydd cynyddol o Saesneg… Mae gan raglenni o’r math rôl bwysig i’w chwarae mewn normaleiddio’r Gymraeg, a rhannu’r neges gadarnhaol fod y Gymraeg yn iaith gymunedol, a bod ei dysgu a’i siarad yn sgil sy’n agored i bawb.” Ydi aelodau ‘Dyfodol’ yn gwylio’r un sioe â mi? Iawn, roedd talp helaeth o Saesneg yn y bennod pan biciodd tad Vicky Collins o Lundain i addo’r byd a bywoliaeth iddi yn y Mwg Mawr, ond yn bersonol, fe ges i ’nghythruddo fwy gan safon actio’r tad. Mae yna fwy o Saesneg mewn cyfweliadau ar Newyddion 9 a’r Byd yn ei Le o dro i dro. Kevin o’n i’n smyg-amau’n wreiddiol, gan ragweld clamp o dro yng nghynffon y stori. Ond mi daflodd y cynhyrchydd Llyr Morus glamp o ddŵr oer ar hynny mewn dangosiad arbennig ym mhabell ‘Sinemaes’ y Steddfod, a dweud mai un o chwech y llun hyrwyddo ydi’r llofrudd. Gethin ydi’r drwg yn y caws erbyn hyn. A pheidiwch da chi â ’nyfynnu os daw’r gwir allan cyn y rhifyn hwn o’r Cymro.


Merwino’r glust
20/10/2018, 6:05 pm
Aaaargh! Digwydd troi i wylio penawdau hwyr ITV Wales wnes i pan ddigwyddodd yr anffawd. Ynddi, roedd stori am bla o bryfed oedd yn poeni trigolion tai teras yn “Claneckley”. Anffodus iawn, meddyliais, ond lle gebyst mae’r dref sydd yng nghanol yr hunllef Hitchockaidd hwn? Deall yn raddol wedyn mai tre’r Sosban oedd dan sylw, ac na allai neu na fynnai’r ohebwraig yngan Llanelli dros ei chrogi. Aaaaargh!! Tolltais de poeth dros fy mechingalws ar ôl cael fy nghythruddo. Gair i gall – peidiwch â chael paned wrth wylio newyddion Saesneg Cymru. Mae’r mantra North Wales llall a’r South Wales arall yn fy ngwneud i’n gyndyn o’u gwylio hefyd, fel petaen nhw’n mynd ati i greu rhwyg a wal fawr ddychmygol o Aber i’r Amwythig. Arferwn osgoi Wales Today dim ond achos Jamie Owen, ond rŵan, ’sdim esgus, â’r Bonwr o Benfro wedi codi pac a gadael i fwnglera enwau lleoedd Twrceg ar sianel TRT World. O leiaf mae pethau wedi altro fymryn, gyda’r Bangor Aye Jennifer Jones yn llywio’r brif raglen nosweithiol gan ymuno â chorws “Nos Da” Derek Tywydd. Normaleiddio, hwnna ydi o. A phechu ambell fonoglot yn y broses. Gwych! A gwych o beth oedd eitem ddiweddar am y Fam Ynys Atomig, a’r ymgyrchydd Robat Idris yn cael rhwydd hynt i siarad yn Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin. Mwy os gwelwch yn dda! Tasg digon diddiolch sydd gan gynhyrchwyr a chyflwynwyr rhaglenni gwleidyddol hefyd. Rhaglenni sy’n ceisio gwneud synnwyr o Brecsit a hynny’n ddiduedd. Gobeithio felly y cawn ni ddehongliad clir a teg gan Guto Harri yn ei rôl wleidyddol newydd ar S4C – na, nid SpAD diweddara’r blaid las yn Byw Celwydd – ond cyflwynydd sioe siarad Y Byd yn ei Le gyda Guto Harri. Cyfres sy’n addo cyflwyno gwleidyddiaeth o’r parciau a’r tafarnau, neu o drac rasio Ffos Las gyda Teresa May. Tybed a oedd rhywfaint o wrthdaro tu ôl i’r llenni, o gofio am swydd flaenorol ei holwr fel swyddog PR ei nemesis Boris Johnson? Sôn am bethau bei-ling, mae Hidden o Eryri a’r Fenai yn dychryn gwylwyr bob nos Sadwrn yn slot poblogaidd dramâu noir BBC Four ar hyn o bryd. Rydyn ni, wylwyr S4C, yn ei hadnabod yn well fel Craith wrth gwrs, a fu’n codi ias arnom dros y gaeaf. Yn anffodus, y fersiwn ddwyieithog sydd wedi’i gwerthu i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yn ogystal â Denmarc, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad Belg, Seland Newydd a Chanada. Ond mae elfennau sydd ddim cweit yn taro deuddeg, fel y ffaith fod DI Cadi John (Siân Reese-Williams) a DS Owen Vaughan (Siôn Alun Davies) – yn wir, pawb o’r heddlu proffesiynol, breintiedig – yn siarad Saesneg â’i gilydd, ac eto’n medru’r Gymraeg yn tsiampion wrth holi teuluoedd tŷ cyngor yr ymadawedig. Mae’n rhoi’r argraff bron yn Fictorianaidd o chwerthinllyd mai Saesneg ydi iaith y dosbarth canol proffesiynol breintiedig, ac mai iaith cyrion cymdeithas yn unig ydi’r Gymraeg.